Teulu dyn fu farw ar ôl cael ei arestio yn ymchwiliad y 'Putney pusher' yn condemnio Heddlu'r Met

Nicholas Brandram

Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae teulu dyn a gafodd ei arestio yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu’r Met wedi i fenyw gael ei gwthio o flaen bws yn dweud ei fod wedi “cymryd ei fywyd ei hun ar ôl misoedd o bwysau eithriadol” gan y llu.

Mae teulu Nicholas Brandram, oedd yn gyfarwyddwr i fanc HSBC, yn dweud nad ef oedd y “Putney pusher”, yn dilyn y digwyddiad yn 2017 pan gafodd rhedwraig ei gwthio o flaen bws yn ne-orllewin Llundain.

Mae fideo yn dangos menyw yn cael ei gwthio gan redwr gwrywaidd ar Bont Putney, gan gwympo i’r ffordd, a’r rhedwr yn parhau i redeg.

Fe waeth y fenyw osgoi anaf difrifol ar ôl i yrrwr y bws wyro’r cerbyd o’i chwmpas ar yr eiliad olaf.

Cafodd Mr Brandram, a oedd wedi gwasanaethu yn y fyddin gan gyrraedd safle Capten, ei arestio ar amheuaeth o geisio achosi niwed corfforol difrifol, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth fis Mehefin.

Roedd yr ymchwiliad wedi derbyn dipyn o sylw, gyda 50 o ddynion yn cael eu cyfweld a thri yn cael eu harestio.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu:  “Doedd dim tystiolaeth fforensig yn cysylltu Nick â’r digwyddiad, dim tystiolaeth yn ei roi ar Bont Putney bryd hynny, a dim tystiolaeth gredadwy mai ef oedd y dyn oedd i’w weld yn y ffilm. 

"Yn wir, roedd y dystiolaeth yn profi’r gwrthwyneb.

“Er hynny, fe ddewisodd yr heddlu arestio Nick yn hytrach na’i wahodd i ddod am gyfweliad. Fe wnaethon nhw chwilio ei gartref ac yna fe wnaeth adran wasg Heddlu’r Met ryddhau gwybodaeth a wnaeth arwain, yn anochel, at ddyfalu ac at Nick yn cael ei enwi mewn adroddiadau dilynol.”

Ychwanegodd y teulu: “Cafodd ei adael am fisoedd yn cario stigma honiad erchyll yr oedd yr heddlu eu hunain yn amlwg yn cydnabod nad oedd tystiolaeth yn ei gefnogi.

“Bu’n byw gyda’r cywilydd, y pryder, a’r pwysau aruthrol a grëwyd gan ymchwiliad cwbl ddiangen.”

Dywedon nhw eu bod nhw wedi gofyn i'r heddlu sawl tro i ddod â’r ymchwiliad i ben, gan rybuddio bod yr ymchwiliad yn cael effaith ar iechyd meddwl Mr Brandram.

“Er hynny, ni ddaeth yr ymchwiliad i ben," medden nhw. 

"O ganlyniad, mae Nick wedi marw.”

Mae Heddlu'r Met wedi cael cais am sylw.

Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.