Y tenor Eidalaidd Andrea Bocelli i ganu yng Nghaerdydd
Bydd y tenor Eidalaidd Andrea Bocelli yn canu yng Nghymru, 20 mlynedd ers iddo berfformio ei gyngerdd cyntaf yn y wlad.
Bydd y cerddor clasurol, sy'n 67 oed, yn perfformio yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf fel rhan o ŵyl newydd sy'n dathlu treftadaeth gerddorol Cymru.
Dywedodd Bocelli: "Drwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi bod yn ffodus i berfformio mewn llawer o lefydd rhyfeddol ledled y byd, ac rydw i wrth fy modd yn cael gwneud fy ymddangosiad cyntaf fel prif artist yng Nghymru.
"Mae treftadaeth gorawl gyfoethog y wlad a'i chysylltiad dwfn â cherddoriaeth yn gwneud y ddinas hon yn lleoliad delfrydol ar gyfer y cyngerdd arbennig hwn.
"Rydw i'n edrych ymlaen at noson fythgofiadwy yng Nghaerdydd."
Mae Bocelli yn enwog am ganeuon poblogaidd fel Time To Say Goodbye a The Prayer, ac mae wedi perfformio o flaen y teulu brenhinol, sawl Pab a nifer o arlywyddion yr Unol Daleithiau.
Mae'n un o'r artistiaid cerddoriaeth glasurol mwyaf llwyddiannus erioed, ac mae wedi ennill nifer o wobrau mawr, wedi cael ei enwebu chwe gwaith am wobr Grammy, ac wedi derbyn seren ar lwybr cerdded enwogion Hollywood yn ystod gyrfa sy'n ymestyn dros bron i 40 o flynyddoedd.
Mae Bocelli hefyd wedi perfformio mewn digwyddiadau mawr ledled y byd, fel y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd.
Perfformiodd yng Nghymru am y tro diwethaf yn 2005, a bydd yn dychwelyd ar gyfer yr ŵyl sy'n cael ei chynnal ar 8 a 9 Mai.