'Tanbaid a gwrthwynebus': Pen y daith i dreth twristiaeth ym Môn a Gwynedd?

YBAB Treth Dwristiaeth

Mae disgwyl y bydd aelodau o Gyngor Ynys Môn yn gwrthod cyflwyno treth twristiaeth ar yr ynys pan fydd y pwnc yn cael ei drafod mewn cyfarfod llawn o'r cyngor brynhawn dydd Iau.

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn cyfarfod ddydd Iau i drafod eu cam nesaf wrth ystyried cyflwyno'r dreth - gyda'r disgwyl y bydd oedi yno hefyd wedi gwrthwynebiad "tanbaid, heriol a gwrthwynebus" i'r cynllun.

Bydd y cais sydd o flaen aelodau Cyngor Môn yn gofyn i'r cynghorwyr ar yr ynys gefnogi argymhellion sydd yn cynnwys peidio mabwysiadu’r dreth ar ymwelwyr "o ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus" ar y pwnc.

Mewn adroddiad i'r cyngor, dywedodd swyddogion y byddai'r cyngor yn "monitro, adolygu ac yn ystyried tystiolaeth effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ddewisodd mabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol."

Cynhaliwyd proses ymgynghori gyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno'r dreth i ymwelwyr ar Ynys Môn drwy arolwg ar-lein oedd yn dechrau ar 15 Mai 2026.

Derbyniodd y Cyngor 2,098 ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. 

'Gwrthwynebiad cryf'

Yn ôl yr adroddiad i gynghorwyr, "mae gwrthwynebiad i’r Ardoll Ymwelwyr yn gryf, gyda 1,482 (70.8%) o’r holl ymatebwyr yn gwrthwynebu, neu’n dueddol o wrthwynebu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, tra bo 525 (25.1%) yn cefnogi, neu’n dueddol o’i gefnogi".

Mae cefnogwyr y math yma o dreth, sy’n eithaf cyffredin ar draws Ewrop, yn dweud y bydd yn helpu cymunedau i ddelio â heriau twristiaeth - ond mae gwrthwynebwyr yn poeni y bydd yn niweidio’r diwydiant ymwelwyr.

Mae unrhyw gyngor sir sydd eisiau cyflwyno’r ardoll yn gorfod rhoi rybudd o 12 mis i Awdurdod Cyllid Cymru, a gwneud hynny unai cyn 1 Ebrill neu 1 Hydref.

Fe fydd ardollau ymwelwyr yn dod i rym yng Nghaerdydd ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae ffi o 75c y pen y noson ar gyfer hosteli a lleiniau pebyll, a £1.30 y pen y noson ar gyfer pob llety arall, fel gwestai, llety hunanarlwyo neu garafannau.

'Tanbaid, heriol a gwrthwynebus'

Yng Ngwynedd y gred yw y bydd yr holl broses yn cael ei hoedi gan gynghorwyr. Cafodd pedwar cyfarfod cyhoeddus eu cynnal yn y sir yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Yn ôl adroddiad i gynghorwyr, roedd yr ymateb a dderbyniwyd yn y sesiynau cyhoeddus yn "danbaid, heriol a gwrthwynebus." 

"Roedd rhain yn gyfarfodydd anodd. Eu bwriad oedd codi ymwybyddiaeth am yr ymgynghoriad ac annog ymateb – ond wrth reswm roedd llawer yn awyddus i leisio barn."

Derbyniwyd 6,856 o ymatebion i’r ymgynghoriad yng Ngwynedd. 

Roedd 48.7% o drigolion Gwynedd yn cefnogi'r Cynnig gyda 43.5% yn gwrthwynebu, 14.7% o fusnesau’n cefnogi a 79.5% yn gwrthwynebu gyda 10.7% o ymwelwyr yn cefnogi a 79.9% yn gwrthwynebu. 

"Dylid cofio nad ymgynghoriad ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ Cynnig Ardoll Ymwelwyr Gwynedd oedd dan sylw yma, ond ymgynghoriad i ganfod effaith bosib cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y Sir ac i gynorthwyo wrth ddod i benderfyniad."

Bydd cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd yn trafod y dreth am 13:30 ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.