'Nid y ffefrynnau': Cymru i herio Portiwgal yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Bellamy

Fe fydd Cymru yn wynebu Portiwgal yn Lisbon nos Iau yn eu gêm agoriadol yn Adran A o Gynghrair y Cenhedloedd.

Fe fydd tîm Craig Bellamy heb Harry Wilson, Nathan Broadhead a Karl Darlow, sydd wedi gadael y garfan oherwydd anafiadau. 

Mae'r amddiffynwyr Joe Rodon a Dylan Lawlor hefyd yn absennol yn dilyn anafiadau.

Mae Cymru wedi dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl ennill eu grŵp yn Adran B yn 2024, gan olygu y byddant yn wynebu rhai o chwaraewyr gorau'r byd. 

Mae gan Bortiwgal rai o fawrion y gamp, gan gynnwys Cristiano Ronaldo, Ruben Dias a Bruno Fernandes.

Ond yn ôl Jordan James, ni fydd gan Gymru "unrhyw ofn" wrth iddynt chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf ers iddyn nhw guro Gogledd Macedonia ym mis Tachwedd y llynedd.

"Ar ddiwedd y dydd, maen nhw'n rhai o'r chwaraewyr gorau yn y byd, does dim modd gwadu hynny," meddai.

"Nid ni yw'r ffefrynnau. Rydyn ni wedi arfer efo hynny felly gobeithio fedrwn ni ddefnyddio hynny i'n budd ein hunain."

Ymlaen i Ddenmarc

Fe fydd Cymru yn wynebu Denmarc yn Copenhagen ddydd Sul, cyn herio Norwy yng Nghaerdydd ar 1 Hydref a Denmarc gartref dridiau yn ddiweddarach. 

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae ers i Bellamy benderfynu peidio ag ymuno â Burnley.

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd y Cymro mai ef wnaeth benderfynu peidio ag ymuno â'r clwb yn y Bencampwriaeth.

Ychwanegodd ei fod yn cydnabod nad oedd rhai o gefnogwyr Cymru yn hapus â'r ffordd yr oedd wedi ymdrin â'r sefyllfa dros yr haf.

"Pan glywais i'r naratif oedd yn cael ei wthio, wrth gwrs fy mod i'n ei ddeall [pam nad oedd cefnogwyr yn hapus]," meddai.

"Ond dyna fywyd. Dydy hynny ddim yn rhywbeth i fi ymwneud ag ef. Y peth cyntaf ddywedais i wrth Gymdeithas Bêl-droed Cymru oedd, 'Gadewch iddo fod.'

"Bydd pethau yn gwella gydag amser, ac fe ddaw'r gwir i'r amlwg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.