Tân Mynydd Conwy: Dim sicrwydd ynghylch pryd y gall trigolion ddychwelyd i'w tai
Tân Mynydd Conwy: Dim sicrwydd ynghylch pryd y gall trigolion ddychwelyd i'w tai
Mae’r gwasanaeth tân wedi dweud nad oes sicrwydd eto ynghylch pryd y bydd rhai o drigolion ardal Penmaenmawr yn cael dychwelyd i’w cartrefi, wrth i ymdrechion barhau i ddiffodd tân gwyllt ar Fynydd Conwy.
Cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ddydd Sul wrth i dân ar raddfa fawr ymledu yn ardal Bwlch Sychnant ar Fynydd Conwy.
Roedd yn rhaid i rai trigolion Capelulo, sydd yn rhan o Ddwygyfylchi, ger Penmaenmawr, adael eu cartrefi.
Cafodd canolfan orffwys hefyd ei sefydlu yng Nghanolfan Busnes Conwy, yng Nghyffordd Llandudno.
Mae busnesau a theuluoedd yn yr ardal hefyd wedi cynnig ystafelloedd i bobl sydd angen llety.
Mae Ysgol Pencae ym Mhenmaenmawr ac Ysgol Capelulo ar gau ddydd Llun oherwydd y tân.
Mae Ffordd Bwlch Sychnant a Hen Ffordd Gonwy yn parhau ar gau.
Mewn diweddariad fore Llun, dywedodd y gwasanaeth tân y dylai pobl barhau i osgoi’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.
Dywedodd llefarydd fod chwe injan dân, tri pheiriant mynediad cul, uned tanau gwyllt, uned rheoli digwyddiad a swyddogion gweithredol yn parhau yn yr ardal, yn “monitro’r amodau”.
“Mae’r digwyddiad yn parhau i gael ei reoli drwy ymateb amlasiantaethol sy’n cynnwys y gwasanaethau brys a sefydliadau partner,” meddai.
“Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad i ragor o bobl adael eu tai. Mae’n rhy gynnar i ddweud pryd y bydd trigolion ardal Capelulo yn gallu dychwelyd i’w cartrefi.”
Y cyngor i drigolion yr ardal yw cadw ffenestri a drysau ar gau os yw’r mwg yn effeithio arnyn nhw, a gofyn am gyngor meddygol os ydyn nhw’n cael trafferth anadlu.
Mae mwg o’r tân hefyd wedi ymledu i Sir Fôn yn y gorllewin ac i Fae Colwyn yn y dwyrain.
Dywedodd y gwasanaeth fod diffoddwyr tân yn bresennol yng Nghoedwigaeth Braichmelyn, Bethesda, ar ôl tân gwyllt yno ddydd Sul. Maen nhw hefyd yn ailarchwilio ardaloedd Harlech a Brynffordd, ger Treffynnon.
Dywedodd y Pennaeth Atal, Jody McEachern: “Gweithiodd diffoddwyr tân yn ddiflino ddoe a thrwy’r nos yn ymateb i nifer o danau gwyllt sylweddol ledled gogledd Cymru.
“Mae gwaith sylweddol yn parhau ar Fynydd Conwy a byddwn yn parhau i fonitro’r amodau’n agos drwy gydol y dydd.
“Hoffwn ddiolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a’u cydweithrediad, ac i’n diffoddwyr tân, staff yr Ystafell Reoli a’n hasiantaethau partner am eu cefnogaeth barhaus.”
Gwaith ‘eithriadol’
Wrth roi diweddariad i drigolion fore Llun, dywedodd y Cynghorydd Cathy Augustine mewn neges ar Facebook: “Cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan ddoe wrth i’r gwasanaethau brys daclo’r tân gwyllt ar Fynydd Conwy. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi bod yn delio gyda sawl tân ar wahân, sydd wedi gwneud sefyllfa anodd yn llawer mwy heriol.
“Yn ffodus, mae pawb wedi’u cadw’n saff, sef y pwynt pwysicaf i’w nodi.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2076334286962037047?s=20
Fe wnaeth y cynghorydd roi teyrnged i waith “eithriadol” y gwasanaethau brys ac i bobl, gan gynnwys y ffermwr Gareth Wyn Jones, am eu gwaith yn diogelu merlod y Carneddau.
Ychwanegodd: “Bore ’ma, mae llawer o griwiau yn dal i fod yn bresennol, gyda nifer o unedau wedi’u gwasgaru ar draws y mynydd, yn monitro ac yn brwydro yn erbyn y sefyllfa.
“Nid yw’n helpu’r sefyllfa nad oes glaw yn y rhagolygon tan ddydd Gwener, a bod y gwyntoedd yn parhau’n gryf.
“Dylai trigolion barhau i fod yn wyliadwrus. Cadwch ffenestri a drysau ar gau os ydych chi mewn ardal o fwg trwm. Bydd yr heddlu a’r gwasanaeth tân yn cysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw eiddo sydd mewn perygl.
“Mae Cyngor Sir Conwy wedi sicrhau bod canolfan orffwys swyddogol bellach ar agor yn llawn. Mae timau o’r Adran Tai a Gofal Cymdeithasol wedi rhoi llety i bawb a oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ac wedi gofyn am gymorth, ac wedi cynnal gwiriadau lles ac ati.”