Taliad annibyniaeth personol PIP ddim yn 'addas i'r diben'

S4C

Dyw'r taliad annibyniaeth personol neu PIP yng Nghymru a Lloegr  ddim yn "addas i'r diben" yn ôl casgliadau arolwg sydd wedi ei gynnal. 

Mae'r taliad yn gymorth ariannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n cael ei roi i bedair miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, neu anabledd hirdymor.

Yn ôl yr arolwg, mae'r drefn bresennol yn trin pobl anabl yn annheg.  

Nododd un o gyd-awduron yr arolwg bod angen ail edrych yn llwyr ar y drefn fudd-daliadau i'r anabl yn y Deyrnas Unedig.  

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Syr Stephen Timms: "Mae'r adolygiad yn dod i'r casgliad ein bod angen diwygiadau cyflawn, nid addasiadau fan hyn fan draw." 

Ychwanegodd: "Mae cryn dipyn o waith i'w gyflawni eto. Bydd y Llywodraeth nawr yn ymroi i'r gwaith hwnnw gan amlinellu eu cynlluniau yn eu papur gwyn y flwyddyn nesaf."  

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, byddan nhw'n gweithredu dau argymhelliad ar unwaith, sef sicrhau bod taliadau yn cael eu dosbarthu yn gyflymach i bobl sydd â'r cyflyrau mwyaf difrifol, a lleihau adolygiadau diangen ar gyfer rhai sydd â chyflyrau gydol eu hoes.   

Nid yw'r adroddiad yn argymell sut i arbed arian yn y maes, gyda darogan y gallai'r costau ddyblu rhwng 2020 a 2030.

Yn ôl ysgrifennydd gwaith a phensiynau'r wrthblaid, Helen Whately mae'r adolygiad yn "ffars." 

Mynnodd yr AS Ceidwadol na fydd yn arwain at ostynigad mewn gwariant ar fudd-daliadau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.