Taith gerdded wedi’i hysbrydoli gan brofiad mam o Rosgadfan o eni gefeilliaid yn gynnar

Charlotte, Wilf ag Ida

Mae mam o Wynedd a wnaeth roi geni i efeilliaid dros ddeg wythnos yn gynnar wedi cael ei hysbrydoli gan ei phrofiad i drefnu taith gerdded i gefnogi teuluoedd eraill sydd wedi wynebu sefyllfaoedd tebyg.

Mae Charlotte Hughes, o Rosgadfan, wedi trefnu taith gerdded Little Lights yn y Felinheli ers 2023, ar y cyd ag elusen Bliss, sydd yn cefnogi rhieni sydd â babanod sydd wedi’u geni’n gynnar.

Yn Ionawr 2023, fe wnaeth Charlotte roi genedigaeth i Wilf ac Ida yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd hi’n 29 wythnos a phedwar diwrnod yn feichiog ar y pryd, ond fe gafodd y penderfyniad ei wneud iddi dderbyn triniaeth Gesaraidd (Caesarian) ar frys ar ôl i gyfradd curiad calon Wilf ddechrau gostwng.

“Fe wnaethon nhw sylwi bod cyfradd curiad ei galon yn gostwng a dweud bod angen cael y babanod allan," meddai Charlotte wrth Newyddion S4C.

“Roedd popeth yn digwydd mor gyflym, gyda phobl yn rhuthro i mewn i'r ystafell.

“Doedd fy ngŵr, Eddie, ddim wedi gallu cyrraedd mewn pryd. Roedd y ddau wedi cael eu geni cyn iddo gyrraedd.”

Image
Ida a Wilf
Ida yn yr het binc a Wilf yn yr het wen.

Am eu bod wedi’u geni ymhell cyn diwedd cyfnod llawn y beichiogrwydd, bu’n rhaid i’r gefeilliad dreulio bron i fis yn yr uned gofal dwys i fabanod newydd-anedig yng Nglan Clwyd.

Wedi iddyn nhw allu anadlu ar eu pen eu hunain, cawson nhw eu trosglwyddo i uned gofal arbennig babanod Ysbyty Gwynedd, lle treulion nhw bron i fis arall.

Ond dywedodd Charlotte nad oedd eu hadferiad bob amser yn syml.

“Y peth am fabanod cynamserol yw nad ydyn nhw o reidrwydd yn gwella'n gyson. Mae yna anawsterau ar hyd y ffordd," meddai.

“Roedd rhaid i Wilf fynd yn ôl ar ocsigen ac ar un adeg doedd o ddim yn gallu cynnal tymheredd ei gorff ei hun.

“Roedd yn rhaid iddo fynd yn ôl i grud wedi'i gynhesu, ac fe wnaeth hynny ohirio'r dyddiad roedden ni'n gallu mynd adref.”

'Profiad ofnadwy'

Er bod cyflwr yr efeilliaid wedi gwella, dywedodd Charlotte fod y pryder yn parhau hyd yn oed ar ôl iddyn nhw adael yr uned gofal dwys.

“Rwy'n cofio pan gafodd y monitorau eu diffodd ym Mangor. Roedd hynny'n achosi cymaint o bryder," meddai.

“Doedd dim sgrin y gallech chi edrych arni i weld eu bod nhw'n iawn.

“Er eich bod chi'n gwybod eu bod nhw wedi gwella, dydy hynny ddim o reidrwydd yn cael gwared ar y pryder.”

Image
Charlotte
Charlotte, ei gŵr Eddie, a'u hefeilliaid, Wilf ac Ida

Dywedodd fod y profiad wedi parhau i effeithio arni wedi i'r efeilliaid ddychwelyd adref.

“Roedd yn brofiad ofnadwy. Rwy'n gwybod bod pobl eraill yn mynd drwy bethau gwaeth, a bod profiad pawb yn wahanol, ond roedd yn anodd iawn," meddai.

“Bob tro roedden nhw'n mynd yn sâl, fy ymateb cyntaf oedd meddwl a fydden nhw'n gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty.”

'Profiad unig iawn'

Mae'r profiad wedi ysbrydoli Charlotte i drefnu taith gerdded Little Lights er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian i'r elusen Bliss, sy'n cefnogi babanod sydd wedi’u geni yn gynnar a'u teuluoedd.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn o gaffi Swellies yn y Felinheli am 18:00 ddydd Sul, i nodi Diwrnod Babanod Cynamserol y Byd.

Mae'r digwyddiad yn agored i bawb sydd am ddangos cefnogaeth i deuluoedd babanod cynamserol a chodi arian i'r elusen Bliss.

Image
Ida a Wilf
Ida ac Wilf

Dyma'r drydedd flwyddyn iddi drefnu'r digwyddiad, a hynny gyda chymorth mam arall, Zoe, a wnaeth roi genedigaeth i'w mab yn gynnar hefyd.

Dywedodd Charlotte fod dod â rhieni sydd wedi cael profiadau tebyg at ei gilydd yn rhan bwysig o'r digwyddiad.

“Gall fod yn brofiad unig iawn," meddai.

“Rydych chi'n mynd i grwpiau babanod ac mae pobl yn siarad am sut cafodd eu babanod eu geni, ac weithiau rydych chi'n meddwl, 'Doedd fy mhrofiad i ddim byd tebyg i hynny.'

“Mae'n braf dod â phobl at ei gilydd sy'n deall yr hyn rydych chi wedi bod drwyddo.”

Prif lun: Charlotte, ei gŵr Eddie, a'u hefeilliaid, Wilf ac Ida (llun: Fox and Bear)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.