Tair medal aur i’r Cymro James Ball ym Mhencampwriaethau Para-seiclo’r byd

James Ball ac Aaron Pope

Mae’r Cymro James Ball wedi ennill tair medal aur ym Mhencampwriaethau Para-seiclo’r  Byd yn Apeldoorn yn yr Iseldiroedd.

Mae hyn yn golygu fod Ball, sy’n 35 oed o Bonthir yn Nhorfaen, wedi ennill 10 teitl Pencampwr y Byd yn ei yrfa.

Daeth buddugoliaeth gyntaf i Ball a’i beilot Aaron Pope o’r Alban yn y ras 1 cilomedr yn erbyn y cloc i Tandem B.

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau gystadlu gyda'i gilydd mewn pencampwriaeth.

Fe lwyddodd i Ball ennill ail aur yn y ras wib Tandem B cyn llwyddo unwaith yn rhagor yn y ras wib cymysg Tandem B.

Fe wnaeth gorchestion Ball helpu tîm Prydain i fod ar frig rhestr y medalau rhestr ar ddiwedd y bencampwriaeth.

Llun: British Cycling

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.