Syr Jim Ratcliffe yn ymddiheuro am ei sylwadau am 'goloneiddio' Prydain
Mae cyd-berchennog Manchester United wedi ymddiheuro ar ôl dweud bod Prydain wedi cael ei "choloneiddio" gan fewnfudwyr.
Dywedodd Syr Jim Ratcliffe mewn datganiad ddydd Iau: "Mae'n ddrwg gen i fod fy newis iaith wedi brifo rhai pobl yn y DU ac Ewrop ac wedi achosi pryder, ond mae'n bwysig codi'r mater o fewnfudo rheoledig sy'n cefnogi twf economaidd."
Daw ei ymddiheuriad ar ôl i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, alw arno i ymddiheuro am ei sylwadau mewn cyfweliad gyda Sky News.
Yn y cyfweliad ddydd Mercher, dywedodd Syr Jim, sy'n byw ym Monaco ers 2020: "Allwch chi ddim cael economi gyda naw miliwn o bobl ar fudd-daliadau a lefelau enfawr o fewnfudwyr yn dod i mewn. Hynny yw, mae'r DU wedi cael ei choloneiddio. Mae'n costio gormod o arian.
"Mae'r DU wedi cael ei gwladychu gan fewnfudwyr, wir, ond yw hi? Hynny yw, roedd poblogaeth y DU yn 58 miliwn yn 2020, nawr mae'n 70 miliwn. Dyna 12 miliwn o bobl."
Wrth ymddiheuro brynhawn Iau, fe aeth Syr Jim ymlaen i ddweud: "Mi wnes i'r sylwadau wrth ateb cwestiynau am bolisi'r DU yn Uwchgynhadledd Diwydiant Ewrop yn Antwerp, lle'r oeddwn yn trafod pwysigrwydd twf economaidd, swyddi, sgiliau a gweithgynhyrchu yn y DU.
"Fy mwriad oedd pwysleisio bod yn rhaid i lywodraethau reoli mudo ynghyd â buddsoddi mewn sgiliau, diwydiant a swyddi fel bod ffyniant hirdymor yn cael ei rannu gan bawb. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal dadl agored ar yr heriau sy'n wynebu'r DU."
Mae ffigyrau swyddogol Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu nad oedd ffigyrau Jim Ratcliffe am fewnfudo yn gywir.
Roedd wedi dweud mai poblogaeth y DU yn 2020 oedd 58 miliwn, ond "nawr mae'n 70 miliwn. Dyna 12 miliwn o bobl.”
Yn ôl yr ystadegau, maint poblogaeth Prydain yn 2020 oedd 67 miliwn. Maint y boblogaeth yn 2000 oedd 58 miliwn.
Mewn datganiad nos Fercher ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod sylwadau Jim Ratcliffe yn "sarhaus ac anghywir".
"Mae Prydain yn wlad falch, oddefgar ac amrywiol. Dylai Jim Ratcliffe ymddiheuro.”
Nid dyma'r tro cyntaf i Syr Jim leisio ei farn yn agored am wleidyddiaeth. Roedd yn gefnogwr brwd o Brexit, ac mae wedi lleisio ei gefnogaeth i'r broses ffracio hefyd.
Ychwanegodd yn ei gyfweliad fod Syr Keir yn ddyn "dymunol" ond fod angen gwleidydd oedd yn fodlon bod yn amhoblogaidd am gyfnod er mwyn wynebu rhai o heriau anoddaf y wlad.