Syr Billy Boston, un o gewri rygbi'r gynghrair, wedi marw'n 92 oed
Mae Syr Billy Boston, un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol yn hanes rygbi'r gynghrair, wedi marw'n 92 oed.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn 1934, ac fe sgoriodd 478 o geisiadau i Wigan mewn 488 o gemau ar ôl newid o rygbi’r undeb i’r gynghrair yn 1953.
Dywedodd yn 2016 ei fod wedi bod yn byw gyda dementia fasgwlaidd.
Cafodd ei urddo'n farchog y llynedd - y chwaraewr cyntaf yn hanes rygbi'r gynghrair i dderbyn yr anrhydedd.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn teyrnged fod Billy Boston yn "un o'r ffigyrau mwyaf annwyl ac eiconig yn hanes chwaraeon Cymru."
'Anghyfiawnder'
Roedd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, wedi dweud yn flaenorol ei fod yn “anghyfiawnder mawr” nad oedd unrhyw chwaraewr rygbi’r gynghrair erioed wedi cael ei urddo’n farchog, cyn i Billy Boston newid hanes y gamp.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd perchennog clwb rygbi Wigan, Mike Danson: "Roedd Billy Boston yn arwr i bawb, gan gynnwys fy mam.
"Roedd yr hyn gyflawnodd yn rygbi'r gynghrair yn rhyfeddol, ac roedd ei urddo'n farchog yn gydnabyddiaeth briodol o yrfa a ddaeth â bri mawr i Wigan ac i'r gamp.
"Ond nid dim ond yr hyn a gyflawnodd oedd etifeddiaeth Billy. Y gostyngeiddrwydd a ddangosodd wrth ymdrin â hynny oedd y peth pwysig.
"Er gwaethaf popeth a gyflawnodd, arhosodd yn ddyn tawel, urddasol ac un a oedd yn cael ei barchu'n fawr.
"Mae'n gadael esiampl ar ei ôl a fydd yn parhau am genedlaethau. Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'r rhai agosaf ato.
"Dyn gwych, ac un o gewri Wigan. Caiff ei gofio gyda balchder ac anwyldeb."
Llun:PA