Sylfaenydd ‘Sgrech’ yn dathlu oes aur cerddoriaeth Gymraeg gyda chyfres o luniau
Mae sylfaenydd un o gylchgronau cerddoriaeth fwyaf dylanwadol yn hanes canu poblogaidd Cymru wedi lansio cyfrif Instagram newydd gyda’r bwriad o rannu ffotograffau i gofio cyfnod, oedd yn ôl rhai fel ‘oes aur’ i gerddoriaeth roc a phop yn y Gymraeg.
Gobaith Glyn Tomos yw cyhoeddi cymaint o luniau sydd yn dal ganddo yn ei feddiant o’i gyfnod fel golygydd cylchgrawn Sgrech, yn cynnwys lluniau o fandiau, artistiaid a dilynwyr cerddoriaeth o’r 1970au a’r 1980au.
Gobaith y cyn-olygydd yw creu archif weledol o gyfnod a fu’n allweddol yn natblygiad y sin gerddoriaeth Gymraeg, gan gyhoeddi delweddau o gyngherddau a digwyddiadau cofiadwy, gwyliau, gigs lleol ac ambell gipolwg tu ôl i’r llenni ar artistiaid a ddaeth yn enwau cyfarwydd yn ystod y cyfnod.
Mae sylwebwyr ac haneswyr cerddoriaeth boblogaidd eisoes wedi cydnabod pwysigrwydd Sgrech, a sefydlwyd yn Ninorwig ger Llanberis yn 1978 gan Glyn Tomos.
Am saith mlynedd o’r bron bu’r cylchgrawn yn adrodd ar fandiau newydd, cynnal cyfweliadau ac adolygiadau o albymau newydd oedd wedi eu recordio, yn ogystal â chyngherddau byw bach neu fawr.
Wrth i’r cylchgrawn ddatblygu, buan iawn ddechreuodd gael ei gymharu â rhai oedd yn cael eu hargraffu yn y Saesneg fel cylchgronau’r Rolling Stone â’r NME.
Yn ogystal â chyhoeddi’r cylchgrawn, bu’r tîm hefyd yn trefnu gwobrau cerddoriaeth ac yn rhyddhau recordiau ‘goreuon’, gan chwarae rhan amlwg yn natblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Yn ôl Glyn Tomos, nod y cyfrif newydd yw sicrhau nad yw’r miloedd o luniau sydd wedi goroesi o’r cyfnod yn parhau mewn bocsys sydd ganddo yn ei gartref, ond eu bod ar gof a chadw i’r genedl gyfan fwynhau.
Mae diddordeb cynyddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf mewn archifau ffotograffig sy’n dogfennu hanes cerddoriaeth Cymru, gyda llawer yn awyddus i ail-ddarganfod mwy o atgofion o’r cyfnod.
Bydd y cyfrif Instagram hefyd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gyfrannu at yr archif drwy adnabod pobl mewn lluniau, rhannu atgofion ac, o bosibl, anfon delweddau ychwanegol at Glyn Tomos i ehangu’r casgliad.
“I’r rhai a fagwyd yn ystod y 1970au a’r 1980au, mae’r lluniau’n debygol o godi atgofion melys o nosweithiau mewn neuaddau pentref, gigs llawn egni a chyfnod pan oedd y byd roc a phop yn y Gymraeg yn ffynnu.
“I genhedlaeth iau, maent yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar bennod bwysig yn hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru ac ar bobl a gyfrannodd gymaint at adeiladu’r diwylliant hwnnw.”