Arestio pump wrth i heddlu arfog gael eu galw i safle golchi ceir yn y de

Heddlu.
Heddlu.

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau am "ffrwgwd yn cynnwys arfau" mewn safle golchi ceir yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle ar Ffordd Caerdydd yn Ffynnon Taf, i'r gogledd o Gaerdydd, am tua 11:50 ddydd Sul.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod y pump wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymwneud â ffrwgwd, a bod eu hymholiadau’n parhau.

Roedd swyddogion arfog hefyd yn bresennol.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Nid oes risg ehangach i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

"Rydym yn deall y gall digwyddiadau o'r fath achosi pryder yn y gymuned leol, ac hoffem dawelu meddwl trigolion bod y rhai dan sylw wedi cael eu harestio a bod ymholiadau yn parhau i sefydlu'r amgylchiadau llawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.