Super Furry Animals yn noddi crys clwb pêl-droed yng Nghymru

Super Furry Animals x crys Cwmbran Celtic

Mae Super Furry Animals yn noddi crys clwb sy’n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru eleni.

Cyhoeddodd Cwmbrân Celtic ei grys newydd, gydag enw’r band ar ei flaen, yn ystod gêm gyntaf y clwb yn y gynghrair nos Fawrth.

Enillodd y clwb 3-0 mewn darbi lleol yn erbyn CPD Tref Cwmbrân o flaen torf o 410 o bobl.

Dywedodd y clwb mai hwn fydd un o dri chrys eleni â noddwyr sy’n ymwneud â cherddoriaeth.

Nid dyma’r tro cyntaf i Super Furry Animals noddi crys pêl-droed. Fe wnaethon nhw noddi crysau CPD Dinas Caerdydd ar gyfer gemau’r clwb yng Nghwpan Cymru yn 1999.

Dros y misoedd diwethaf, mae Super Furry Animals wedi bod ar daith ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r band wedi chwarae yng Nghaerdydd, Llundain, Llandudno a Llangollen, a byddan nhw hefyd yn chwarae yn Glasgow a Dulyn.

Ddydd Sadwrn, bydd y band yn chwarae ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Hwn fydd yr unig gig uniaith Gymraeg y bydd y band yn ei berfformio. Maen nhw’n gobeithio cynnwys yn y set arbennig rai caneuon nad ydyn nhw erioed wedi’u perfformio’n fyw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.