Storm Dave: Uwchraddio i rybudd oren am wynt i'r gogledd-orllewin
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd newydd 'oren' am wynt i'r gogledd-orllewin dros benwythnos y Pasg wrth i Storm Dave daro'r wlad.
Bydd y rhybudd - sy'n dod i rym am 19.00 ddydd Sadwrn ac yn parhau tan 03.00 fore Sul - yn effeithio ar siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Cafodd y rhybudd ei uwchraddio o felyn i oren amser cinio ddydd Sadwrn, ac mae'r rhybudd hwn yn golygu y gallai fod perygl i fywyd.
Mae’n bosib y bydd y storm yn dod â hyrddiau o 60 i 70mya, gyda 80mya mewn mannau mwy agored.
O ganlyniad i wynt "a allai fod yn niweidiol", mae'r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i osgoi mynd allan lle bo modd.
"Mae bod y tu allan mewn gwyntoedd cryfion yn eich gwneud chi'n fwy agored i anaf," meddai llefarydd ar ran y swyddfa.
"Arhoswch dan do cymaint â phosibl. Os ewch chi allan, ceisiwch beidio â cherdded, na chysgodi, yn agos at adeiladau a choed.
"Cyn gwyntoedd cryfion, gwiriwch am eitemau rhydd y tu allan i'ch cartref a'u sicrhau - biniau, dodrefn gardd, trampolinau, pebyll, siediau, a ffensys."
Maen nhw'n rhybuddio bod oedi’n debygol ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, yn ogystal ag i wasanaethau awyr a fferi, gyda chanslo rhai gwasanaethau yn bosib.
Mae'n debygol y gallai toriadau pŵer ddigwydd, a hynny’n gallu effeithio ar wasanaethau eraill fel signal ffonau symudol.
Mae'r rhagolygon hefyd yn rhybuddio bod difrod i adeiladau'n debygol, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt rhwng 17.00 ddydd Sadwrn a 07.00 fore Sul.
Bydd yn effeithio ar y siroedd canlynol: Ceredigion; Conwy; Sir Ddinbych; Sir y Fflint; Gwynedd; Ynys Môn; Sir Benfro; Powys.