Storm Boelo: Marwolaeth yn yr Alban wedi i goeden ddisgyn

Difrod Storm Boelo

Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan goeden, wrth i Storm Boelo ddod â llifogydd, toriadau trydan a hyrddiadau o hyd at 84mya.

Bu farw'r dyn 60 oed ar ôl cael ei daro gan goeden ar ffordd fechan yn Dumfries and Galloway yn yr Alban toc wedi 10.30 fore Sul.

Mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn parhau i fod mewn grym yn yr Alban a rhannau o ogledd Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Er nad yw'r rhybudd oren yn berthnasol i Gymru, mae ardaloedd ar draws y wlad yn parhau i deimlo effaith y storm ddydd Sul.

Ond mae'n debyg mai ardaloedd yn y gogledd sydd wedi cael eu taro waethaf yng Nghymru ddydd Sul, ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.

Daw'r rhybudd diweddaraf wedi cyfres o rybuddion melyn yng Nghymru'r wythnos hon.

Cafodd hyrddiadau o 84 mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri dros nos.

Fore Sul, roedd cannoedd o gartrefi ar hyd a lled Cymru heb drydan, y mwyafrif yn y de, gyda thoriadau yn effeithio ar fwy na 500 o gartrefi yn Rhaeadr, Powys. 

Yr amcangyfrif ydy fod hyd at 80,000 o gartrefi heb drydan ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ddydd Sul. 

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi fod pum rhybudd coch ar gyfer llifogydd yn y de, ben bore.

Er nad oes rhybuddion coch nos Sul, mae 12 o rybuddion ‘paratowch am lifogydd’ yn parhau yng Nghymru.

Roedd y rhybuddion coch am lifogydd fore Sul ger Afon Elái yn Llanbedr-y-fro, Bro Morgannwg; Afon Elái yn Sain Ffagan, Bro Morgannwg; Afon Elái wrth Bont Elai, Morgannwg; Afon Elái yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Heddlu De Cymru fore Sul eu bod wedi cael eu galw i ddau achos o lifogydd ar hyd Afon Elái, gan arwain at gau Pont Elái ar Heol Orllewinol y Bontfaen yng Nghaerdydd, yn ogystal â Heol Llanfihangel i Gwrt Bryn y Castell i’r ddau gyfeiriad.

Roedd hyd at 55.2mm o law wedi disgyn ym Mharc Bute yng Nghaerdydd yn ystod y 24 awr hyd at fore Sul.

Cafodd 54.6mm o law hefyd ei gofnodi yng Nghapel Curig yng Nghonwy yn ystod yr un cyfnod.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi canslo nifer o deithiau tren, gan gynnwys rhwng Abertawe ac Amwythig.

Roedd Stena Line, sy’n gweithredu gwasanaeth fferi rhwng Caergybi a Dulyn, wedi canslo rhai teithiau ddydd Sadwrn, ond mae’n ymddangos bod eu gwasanaethau bellach yn ôl i’r drefn arferol.

Rhybudd melyn i'r gogledd

Er bod disgwyl i’r tywydd wella’n raddol ddydd Sul, bydd y rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym mewn rhannau o ogledd Cymru tan 21.00 nos Sul, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae’r rhybudd yn golygu bod perygl o anafiadau oherwydd malurion sy’n cael eu chwythu gan y gwynt, yn ogystal â difrod i adeiladau a choed. 

Mae’n bosib y bydd teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau, a changhennau mawr a choed yn disgyn.

Gallai hynny effeithio ar deithiau ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, mewn awyrennau ac ar longau fferïau, gyda theithiau hirach a chanslo gwasanaethau’n bosib. 

Mae perygl hefyd y bydd toriadau pŵer mewn rhai ardaloedd, gan effeithio o bosib ar wasanaethau eraill, gan gynnwys signal ffonau symudol.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am berygl ar yr arfordir, lle gallai tonnau mawr a malurion gael eu taflu at y lan, gan beri risg o anafiadau difrifol a hyd yn oed farwolaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.