Starmer i ymweld â'r Gwlff wedi cadoediad rhwng America ac Iran
Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd yn ymweld â'r Dwyrain Canol wedi i America ac Iran ddod i gadoediad.
Fe ddaeth y ddwy wlad i gytundeb nos Fawrth ac fe fydd y cadoediad yn para am bythefnos.
Croesawu'r newyddion y mae Prif Weinidog y DU wedi ei wneud.
Dywedodd Starmer y bydd y cadoediad yn "dod â moment o ryddhad i'r rhanbarth ac i weddill y byd."
Ychwanegodd: "Gydag ein partneriaid mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i gefnogi a chadw'r cadoediad, ei droi yn gytundeb fydd yn para ac ail agor culfor Hormuz."
Bydd y Prif Weinidog yn teithio i'r Gwlff i gyfarfod arweinwyr gwledydd yno er mwyn "trafod ymdrechion diplomataidd i gefnogi a chynnal y cadoediad" meddai rhif 10.
Mae disgwyl iddo hefyd gyfarfod aelodau o'r lluoedd arfog Prydeinig yn y rhanbarth. Roedd ei ymweliad â'r Gwlff wedi ei drefnu cyn y cadoediad.
Fe ddaeth y cyhoeddiad tua awr cyn i fygythiad Donald Trump i fomio Iran "yn ôl i Oes y Cerrig" ddod i rym.