Starmer: Dylai Llafur 'ennill yr etholiad nesaf'

andy burnham a keir starmer
Dylai'r Blaid Lafur "ennill yr etholiad nesaf" yn ôl Keir Starmer, sy'n mynnu ei fod yn gadael "platfform i adeiladu arno" i'w olynydd tebygol, Andy Burnham.
 
Ymddiswyddodd Starmer fis diwethaf wedi dwy flynedd wrth y llyw fel prif weinidog y Deyrnas Unedig. Mae'n debygol mai Burnham, cyn-faer Manceinion, fydd yr unig ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur a Phrydain.
 
Yn ei gyfweliad ffurfiol cyntaf ers cyhoeddi ei fod yn gadael, dywedodd Starmer wrth y BBC nad oedd o'n teimlo unrhyw "ddrwgdeimlad" tuag at Burnham, a ymgyrchodd i ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin gydag addewid y byddai'n herio'r prif weinidog.
 
Mynnodd Starmer ei fod ef a'i dîm, sydd wedi cael eu beirniadu'n fewnol ac yn allanol am fod â diffyg gweledigaeth, wedi gosod seiliau newydd i'r blaid a'r wlad.
 
Cyfeiriodd at ei ymdrechion i newid Llafur a mynd i'r afael â gwrth-semitiaeth wedi arweinyddiaeth asgell chwith Jeremy Corbyn, gan fynnu bod y llywodraeth wedi "sefydlogi'r economi" ar ôl trechu'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2024.
 
"Fe fydd gan fy olynydd blatfform i adeiladu arno, sy'n golygu y gallai Llafur ac y dylai Llafur fynd ymlaen i ennill yr etholiad nesaf," meddai.
 
Ychwanegodd mai dyma "ddiwedd fy siwrne i mewn gwleidyddiaeth" er ei fod yn bwriadu parhau yn ei swydd fel AS tan yr etholiad nesaf, gan wadu adroddiadau y byddai'n ymgeisio i fod yn ysgrifennydd cyffredinol NATO.
 
Rhybudd rhyngwladol
 
Er iddo gael ei ethol yn brif weinidog gyda mwyafrif swmpus yn Nhŷ'r Cyffredin, cwympodd poblogrwydd Starmer ymhlith ei blaid a'r cyhoedd yn sydyn yn sgil penderfyniadau dadleuol am daliadau i bensiynwyr a'r system les.
 
Fe gafodd ganmoliaeth gan rai, er hynny, am ei rôl ar y llwyfan rhyngwladol, lle bu'n amlwg yn ei gefnogaeth i Wcráin yn ei rhyfel â Rwsia.
 
Yn ei gyfweliad, rhybuddiodd Starmer byddai'n rhaid i Burnham - sydd wedi canolbwyntio ar faterion domestig yn ei ymgyrch i ddod yn brif weinidog - roi digon o amser i bynciau rhyngwladol hefyd.
 
"Os wyt ti'n brif weinidog ac yn poeni am gost biliau mewn cartrefi ar draws y wlad, mae'n rhaid i ti boeni am sut mae dod o hyd i datrysiad hirdymor i'r sefyllfa yn Wcráin, mae'n rhaid i ti boeni am be' sy'n digwydd yng Nghulfor Hormuz," meddai.
 
"Dydi meddwl dy fod di'n gallu gwahanu'r ddau beth yma ddim yn ddoeth."
 
Er nad ydi Burnham wedi datgelu llawer am ei amcanion rhyngwladol, dywedodd mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar wefan Reddit nos Wener y byddai "100%" yn parhau i gefnogi Wcráin i'r un graddau â Starmer.
 
Fe awgrymodd hefyd y byddai'n dal ymlaen i wthio am berthynas agosach â'r Undeb Ewropeaidd.
 
Os nad oes AS arall yn taflu'u het i'r ras i olynu Starmer, gallai Burnham gael ei ethol yn arweinydd Llafur mor gynnar â Gorffennaf 17. Mae angen cefnogaeth o leiaf 81 AS i sicrhau enwebiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.