Starmer i anfon llongau'r Llynges Frenhinol i'r Arctig a Gogledd yr Iwerydd
Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi y byddai llongau'r Llynges Frenhinol yn cael eu hanfon i foroedd y gogledd, gan gynnwys yr Arctig, a Gogledd yr Iwerydd fel rhan o gytundeb gyda gwledydd NATO.
Daw wedi iddo ddweud fore Sadwrn y dylai gwledydd Ewrop fod yn “barod i ymladd” yn sgil pwysau cynyddol gan Rwsia.
Mae arweinwyr y byd wedi dod at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd Diogelwch Munich yng ngwesty'r Bayerischer Hof rhwng dydd Gwener a dydd Sul.
Wrth siarad yno ddydd Sadwrn, dywedodd bod Rwsia wedi “profi bod ganddynt chwant am drais” drwy’r rhyfel yn Wcráin.
Mae’n dweud y bydd ymgyrch i leoli llongau ac adnoddau eraill y llynges bellach yn cymryd lle yn y 'Gogledd Uchel' a Gogledd yr Iwerydd.
Fe fydd hynny mewn partneriaeth gydag America, Canada, a gwledydd eraill Nato, meddai.
Daw hynny wedi i Ysgrifennydd Gwladol America Marco ddweud bod yr Unol Daleithiau yn awyddus i wella’r berthynas rhyngddyn nhw ac Ewrop wedi cyfnod cythryblus.
Roedd Marco Rubio hefyd wedi beirniadu’r camgymeriadau y mae’r Gorllewin wedi eu gwneud dros y 40 mlynedd diwethaf.
Roedd yn beirniadu’r “trefn ryngwladol” a gafodd ei sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig wedi’r Rhyfel Oer.
Ond dywedodd y byddai tynged America ac Ewrop “wastad” yn gysylltiedig.
Ychwanegodd bod yr Arlywydd Donald Trump yn “mynnu difrifoldeb" gan "ein ffrindiau yma yn Ewrop,” a hynny oherwydd eu bod yn meddwl am “eich dyfodol chi a’n dyfodol ni”.
Roedd Syr Keir Starmer hefyd wedi dweud ddydd Sadwrn y bydd yn rhaid i wledydd Ewrop gymryd mwy o gyfrifoldeb o ran diogelwch er mwyn gwarchod dyfodol NATO.
Llun: Stefan Rousseau/PA Wire