Prinder sment esgyrn yn arwain at oedi mewn llawdriniaethau yng Nghymru

Llawdriniaeth pen-glin

Mae arbenigwyr yng Nghymru wedi rhybuddio y gall diffyg sment feddygol arwain at oedi i nifer o gleifion sy’n cael llawdriniaethau clun a phen-glin.

Mae hyn oherwydd problem gyflenwi fyd-eang gan brif ddarparwr sment esgyrn y GIG.

O ganlyniad, mae ysbytai wedi gorfod sicrhau bod y cyflenwadau’n mynd at driniaeth drawmatig a gofal brys.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod nhw’n gorfod “blaenoriaethu’r achosion mwyaf brys”.

“Rydym yn gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru, i reoli'r sefyllfa hon.

“Gan fod yn rhaid i ni flaenoriaethu'r achosion mwyaf brys yn glinigol a diogelu ein cyflenwad sment sy'n weddill ar gyfer claf trawma ac achosion brys, mae'n anffodus y bydd y prinder hwn yn arwain at ganslo neu oedi llawdriniaethau dewisol dros yr wythnosau nesaf.

“Rydym yn gofyn i gleifion beidio â chysylltu â ni i ofyn a yw eu llawdriniaeth yn mynd rhagddi - bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw un y mae ei lawdriniaeth ddewisol wedi'i heffeithio.

“Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd, fodd bynnag, mae'r amgylchiadau hyn y tu hwnt i'n rheolaeth.”

'Nam pacio'

Mae sment esgyrn yn cael ei ddefnyddio i angori cymalau artiffisial ac mae’n llenwi’r bwlch rhwng y cymal newydd ac esgyrn y claf.

Mae yna nifer o wahanol fathau o sement meddygol a gellir eu defnyddio hefyd mewn nifer o wahanol wahanol lawdriniaethau, gan gynnwys llawfeddygaeth orthopedig a deintyddol.

Mae gan y GIG gyflenwad ar gyfer y pythefnos nesaf ac mae rheolwyr wedi amcangyfrif y gallai bod bwlch o chwe i wyth wythnos o gyflenwad.

Daw hyn ar ôl i gwmni Heraeus Medical o’r Almaen, prif gyflenwr sement esgyrn i'r GIG, ddweud bod "nam pacio" wedi effeithio ar eu cynhyrchion sement esgyrn.

Dywedodd y cwmni y gallai hyn effeithio ar argaeledd eu cynnyrch am o leiaf dau fis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.