Sir Gâr: Galw am foratoriwm ar gau ysgolion 'yn un o gadarnleoedd y Gymraeg'
Mae llywodraethwyr tair ysgol wedi galw am atal dros dro ar unrhyw benderfyniad i gau ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Gwendraeth wrth i dair ysgol wynebu'r posibilrwydd o gau.
Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, mae cadeiryddion ysgolion Pontiets, Bancffosfelen a Charwe wedi cyhuddo Cyngor Sir Gar o "daflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth wrth i gymunedau Cymraeg grebachu."
Mae'r tair ysgol yn wynebu ymgynghoriad posib ar eu dyfodol, ynghyd ag ysgol Blaenau ger Llandybie.
Yn eu llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg, Anna Brychan, mae llywodraethwyr y tair ysgol yng Nghwm Gwendraeth yn galw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg" am y tro a gwrthod y syniad o gau ysgolion "yn un o gadarnleoedd y Gymraeg."
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod ei rhaglen Moderneiddio Addysg yn canolbwyntio ar sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn gallu diwallu anghenion dysgwyr cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw gweinidogion Cymru â'r hawl i "wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion gan y gallai fod yn ofynnol iddynt wneud penderfyniad arnynt."
'Angen ymyrraeth frys'
Yn ôl dogfennau ymgynghorol y Cyngor ar yr ysgolion, mae 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen, ond mae 41 o ddisgyblion sydd yn byw yn yr ardal yn mynychu ysgolion y tu allan i'r dalgylch.
Mae plant Ysgol Carwe wedi gorfod symud i Ysgol Gwynfryn dros dro, oherwydd cyflwr yr adeilad. Yn ôl y cyngor, mae yna 58 o ddisgyblion ond mae 120 yn dewis mynychu ysgolion tu allan i'r dalgylch. Mae yna 50.8% o lefydd gwag.
Yn Ysgol Pontiets, roedd yna 21 ar y gofrestr yn ôl cofnodion diweddaraf PLASC, ond mae 38 sydd yn byw yn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill.
Yn eu llythyr at Anna Brychan, mae Andrew Barlow, Elin Cullen a Tudur Jones yn dweud bod "polisi Sir Gar yn taflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth, ac mae angen ymyrraeth frys rhag inni weld y cyfan yn mynd yn ulw."
Yn benodol, maen nhw yn cyfeirio at "bwysigrwydd Cwm Gwendraeth, nid yn unig i Gymreictod y Sir, ond i barhad yr iaith yn genedlaethol" ac yn "erfyn arnoch i osod moratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg, tan eich bod chi a'r cabinet wedi rhoi ar waith yr egwyddorion yr ydych wedi ymrwymo iddyn fel llywodraeth, ar sail argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg."
Yn y llythyr, maen nhw yn galw ar aelodau'r cabinet i "weithredu argymhellion y Comisiwn (Cymunedau Cymraeg)" yn ddi-oed "gyda'r bwriad canolog a thymor hir o sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol."
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod hi'n bwysig "ystyried sut mae ein hysgolion wedi'u trefnu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i gefnogi disgyblion, staff a chymunedau ledled y sir" wrth i'r awdurdod wynebu heriau sy'n cynnwys "ysgolion sy'n gweithredu gyda nifer y disgyblion yn llawer is na'u capasiti a sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy."
Yn ôl Elin Cullen, un o'r rhai wnaeth arwyddo'r llythyr at Anna Brychan, mi fyddai cau Ysgol Pontiets yn "cael effaith ofnadwy ar yr iaith Gymraeg" yn yr ardal.
"Efallai bod lle i ysgolion mawr mewn trefi ond so ni moyn colli beth sydd gyda ni ym Mhontiets ac ym Mancffosfelen a hefyd yng Ngharwe.
"Unwaith chi'n colli ysgol, deiff e byth nol. A beth sydd o'n blaen ni yn y dyfodol?
"Oes rhagor o ysgolion yn mynd i gau? A oes rhagor o bentrefi yn mynd i fod yn yr un sefyllfa a ni yng Nghwm Gwendraeth?"
Integreiddio
Yn ôl cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, doedd hi ddim o reidrwydd yn wir y byddai'r Gymraeg yn dioddef wrth gau ysgolion bach.
"Mae yna dystiolaeth mewn mannau eraill yng Nghymru bod hynny yn wir. Lle mae'r ysgolion wedi dod at ei gilydd, mae hi wedi arwain at gryfhau'r Gymraeg.
"Gyda'r mewnlifiad sydd gyda ni, a lle mae yna blant newydd di-Gymraeg yn dod i'r ysgolion yn cael eu hintegreiddio yn effeithiol iawn mewn i ysgolion mwy o faint, lle mae'n fwy o broblem mewn ysgolion llai o blant.
"Does dim amheuaeth bod Cwm Gwendraeth yn ardal ofnadwy o bwysig o ran y Gymraeg. Mae hi ar y ffin ieithyddol.
"Mae'r Gymraeg yn edwino tua'r gorllewin, ac ar hyn o bryd, mae hynny yn digwydd yng Nghwm Gwendraeth.
"Ond i ryw raddau, am ei bod hi ar y ffin, efallai bod eisiau sicrhau bod yna fwy o ymdrech i amddiffyn y Gymraeg, ac efallai yn y cyd-destun yma, bod cael ysgolion mwy o faint gyda mwy o adnoddau, a mwy o gyfleon i'r plant, yn well amddiffyniad na chynnal yr hyn sydd yna ar hyn o bryd."
'Poenus'
Bu'r Cynghorydd John Davies yn arweinydd Cyngor Sir Penfro 20 mlynedd nol pan aed ati i gau ysgolion Blaenffos a Hermon er mwyn creu ysgol ardal yng Nghrymych.
"Dyw hi ddim lan i ysgolion i gynnal cymuned. Mae hi lan i gymuned i gynnal ysgolion. Os nad yw'r plant yna does yna ddim opsiwn gyda chi."
Yn ôl John Davies, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad clir wrth i niferoedd disgyblion grebachu ar draws Cymru.
"Dyw'r niferodd o blant ddim yna. Mae gyda ni ddyletswydd fel cynghorwyr ac mae gan ein Haelodau Senedd i roi arweiniad ac sydd yn gadarn iawn ac mae hynny yn anodd tu hwnt ac yn boenus.
"Mae bob aelod etholedig ddyletswydd i fod yn atebol. Chi naws gwell roi eich pen yn y tywod. Mae angen arweiniad cenedlaethol o lywodraeth Caerdydd o ran delio gyda'r ddemograffeg.
"Beth ni'n gweld yw ein hysgolion yn dal yn gwacau, hyd yn oed y rhai a fuddsoddwyd yn hael ynddyn nhw chwarter canrif yn ôl.
"Dw i yn deall pryder ein cymunedau, a'u gofid a'u poen, ond dw i hefyd yn cydnabod bod addysg plentyn yn dod gyntaf."
Yn ôl Dr Huw Williams, sydd yn rhiant ac yn llywodraethwr yn Ysgol Pontiets, y cwymp mawr yn nifer y disgyblion yw'r "union reswm" dros alw am foratoriwm ar gau ysgolion.
"Oni bai bod ni yn gweithredu yn fuan gewn ni ddim ateb strategol i'r hyn sydd ar waith.
"Mae eisiau iddyn nhw weithredu moratoriwm cenedlaethol yn syth bin er mwyn iddyn nhw roi egwyddorion Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar waith.
"Mae hynny yn rhywbeth sydd wedi bod yn addewid ers y llywodraeth ddiwethaf. Does yna ddim rheswm i oedi.
"Mae Plaid Cymru wedi bod mewn llywodraeth ers chwe mis ac mae pobl yn dechrau gofyn beth maen nhw yn dda i? Dyma gyfle i weithredu.
'Rhaid ystyried yn ofalus'
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb i'r llythyr gan y Llywodraethwyr: “Ni all Gweinidogion Cymru wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion gan y gallai fod yn ofynnol iddynt wneud penderfyniad arnynt.
“Mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion. Rhaid ystyried yn ofalus unrhyw gynigion sy’n effeithio ar ysgolion gwledig, gan roi sylw llawn i’w heffaith addysgol, ieithyddol a chymunedol."
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod sawl cais gan raglen Newyddion S4C am gyfweliad gyda'r tri aelod sydd yn cynrychioli sedd Caerfyrddin.
Mae yna 3,500 o lefydd gwag yn ysgolion Sir Gâr ac mi allai diffyg ariannol yr ysgolion gyrraedd cyfanswm o £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru wrth Newyddion S4C y byddan nhw'n "adolygu" trefniadau Cyngor Sir Gar o oruchwylio cyllidebau ysgolion yn sgil y gorwario ac y byddan nhw yn cyflwyno adroddiad i'r cyngor yn ystod y Gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Newyddion S4C, cadarnhaodd y Swyddfa bod y gwaith yma yn ymwneud yn benodol gyda Sir Gâr yn sgil y "risg" sydd i'r cyngor sydd yn ymwneud â chyllidebau ysgolion.
Fe fydd Pwyllgor Craffu Addysg Sir Gâr yn cwrdd fore Gwener i drafod dogfen ymgynghorol ddiwygiedig sydd yn trafod cau Ysgol Bancffosfelen, ar ôl i'r cynghorydd lleol, Liam Bowen, ofyn i swyddogion ddiweddaru'r wybodaeth ynddi.
