Sir Gâr: Yr A40 ar gau yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' rhwng bws a fan

Gwrthdrawiad Sir Gâr

Mae’r gwasanaethau brys wedi eu galw i wrthdrawiad ‘difrifol’ sydd wedi cau ffordd yr A40 yn Sir Gâr.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i wrthdrawiad rhwng bws a fan, rhwng Llandeilo a Nantgaredig, am 16.25 brynhawn dydd Gwener.

Cafodd criwiau tân a sawl ambiwlans eu galw i’r lleoliad yn ogystal.

Mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae’r llu’n cyngor deithwyr i ddefnyddio ffyrdd gwahanol.

Llun: Carmarthenshire News Online
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.