Sir Ddinbych: Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

Bwlch Nant y Garth

Mae dyn 24 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Llysfasi yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur Suzuki du ar yr A525, ym Mwlch Nant y Garth, am tua 03:00 fore Sadwrn.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle. 

Mae teulu'r dyn a'r Crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd y Ditectif Rhingyll Liam Morris: "Hoffwn ddiolch i aelodau o'r cyhoedd a gynorthwyodd yn lleoliad y digwyddiad trasig hwn, ac estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu'r dyn.

"Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r beic modur yn yr ardal ar yr adeg berthnasol i ddod ymlaen.

"Yn ogystal, dylai unrhyw un sydd â ffilm camera dashfwrdd a allai fod wedi cofnodi'r beic modur dan sylw cyn y gwrthdrawiad gysylltu â'r heddlu."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000581789."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.