Sir Conwy: Apêl codi arian i fam sy'n ddifrifol wael yn yr ysbyty yn cyrraedd dros £11,000

tasha farah.jpg

Mae apêl codi arian ar gyfer dynes o Sir Conwy sydd yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi cyrraedd dros £11,000. 

Mae teulu Tasha Farah yn dweud ei bod yn yr uned gofal dwys yn yr ysbyty wedi anaf difrifol, ac ar hyn o bryd mae hi'n brwydro am ei bywyd. 

Mae ei chwaer, Samantha, wedi dechrau'r ymgyrch, gan ddweud ei bod yn wynebu "taith hir ac ansicr o'i blaen i wella, ac fe fydd angen gofal dwys, therapi a chefnogaeth i adennill hyd yn oed y rhannau symlaf o'i bywyd.

"Nid chwaer yn unig yw Tasha, mae hi'n fam i'w mab hyfryd wyth oed, Roman. Ar hyn o bryd, mae o angen sefydlogrwydd, cariad a chefnogaeth yn fwy nag erioed tra bod ei fam yn ymladd i ddod yn ôl ato."

Ychwanegodd Ms Farah fod y teulu "heb eu paratoi o gwbl ar gyfer y pwysau ariannol ac emosiynol o'r hyn sydd o'n blaenau - gofal ysbyty parhaus, adferiad, amser i ffwrdd o'r gwaith, sicrhau fod Roman yn ddiogel, yn derbyn cefnogaeth a'r gofal yn ystod y trawma yma."

Llun: GoFundMe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.