Sir Benfro: Teulu Griff a Martha Thomas yn obeithiol am gwest newydd i’w marwolaethau

Newyddion S4C
Llangolman

Mae perthnasau brawd a chwaer gafodd eu darganfod yn farw yn eu cartref gwledig yn Sir Benfro o dan amgylchiadau amheus ym 1976 wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n obeithiol y bydd modd cynnal cwest newydd i'w marwolaethau.

Bedair blynedd nôl, fe lansiwyd adolygiad fforensig gan Heddlu Dyfed Powys yn ymwneud â marwolaethau Griff a Martha Thomas, o’r enw Operation Hallam, ond y gred yw nad yw’r adolygiad hwnnw wedi canfod tystiolaeth newydd arwyddocaol.

Cafodd rhai o berthnasau Griff a Martha Thomas gyfarfod gyda Chrwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Gareth Lewis, a rhai o swyddogion Heddlu Dyfed Powys, yn Hwlffordd ddydd Mercher wnaeth bara dwy awr a hanner, i drafod y camau nesaf.

Dywedodd un perthynas, Anne Gibby, bod y cyfarfod "wedi bod yn un positif".

Mae Huw Gibby hefyd yn perthyn i Griff a Martha, ac fe ddywedodd bod y teulu wedi cael newyddion cadarnhaol yn ystod y cyfarfod.

"Mae'r Crwner wedi edrych ar yr holl dystiolaeth gan yr heddlu, yr arbenigwyr sydd wedi cael eu hapwyntio gan yr heddlu wedi dweud ac mae'n dweud bod e'n ystyried ail agor yr achos fel cwest," meddai.

"Roedd hynny yn galonogol iawn i ni. 'Da ni erioed wedi credu fersiwn y prif swyddog oedd yng ngofal yr ymchwiliad ar y pryd, Pat Malloy."

Perthynas arall oedd yn y cyfarfod oedd Anne Gibby.

Image
Anne Gibby
Anne Gibby

"Dw i a Huw yn meddwl bod ni wedi cael newyddion da," meddai.

"Wedd e'n gyfarfod positif a fuon ni am ddwy awr a hanner ac fe wnaethon nhw ateb bob cwestiwn i ni. 

"Er bod ddim llawer o dystiolaeth fforensig newydd gyda nhw, maen nhw wedi cael lot o wybodaeth sydd yn neud i nhw feddwl bod rhaid ail agor y cwest.

"Y flaenoriaeth i ni yw cael cyfiawnder i Griff a chlirio ei enw fe."

'Clirio enw Griff Thomas'

Mi fydd hi'n union hanner can mlynedd ym mis Rhagfyr ers i Griff, 73 oed, a'i chwaer Martha Mary Thomas, 70 oed, gael eu darganfod yn farw yn eu ffermdy Ffynnon Samson ym mhentref gwledig Llangolman. Roedd Martha yn cael ei hadnabod yn lleol fel Patti.

Ar y pryd daeth ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i'r casgliad fod Patti (neu Martha) Thomas wedi cael ei lladd gan ei brawd, Griff, a'i fod e wedi marw o ganlyniad i dân wnaeth e ei gynnau yng nghegin y tŷ.

Mae perthnasau'r teulu, a'r rhai oedd yn eu nabod yn dda, hefyd wedi gwrthod y syniad yn llwyr y gallai'r brawd fod wedi lladd y chwaer, ac wedi mynnu bod rhywun arall yn gyfrifol am y marwolaethau.

Mae yna alwadau wedi bod dros y blynyddoedd i gynnal cwest o'r newydd i farwolaethau'r ddau, a hyd yn oed i godi cyrff Griff a Martha o'r bedd er mwyn cynnal archwiliad fforensig o'r newydd, yn sgil pryderon bod Griff Thomas wedi cael bai ar gam am ladd ei chwaer.

Dywedodd Huw Gibby mai'r flaenoriaeth i'r teulu oedd "clirio enw Griff Thomas".

Yn ôl Mr Gibby, mi fydd y Crwner yn gorfod paratoi "adroddiad annibynnol" ar yr achos, sydd yn cynnwys tystiolaeth yr heddlu, y teulu ac yna ei gyflwyno i'r Twrne Cyffredinol. 

Image
Huw Gibby
Huw Gibby

Os y bydd y Twrne Cyffredinol yn gefnogol, fe fydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Uchel Lys fydd yn penderfynu a ddylai cwest newydd gael ei gynnal.

Yn ôl Mr Gibby, mae'n "obeithiol iawn y bydd y Crwner yn cyflwyno'r achos hwnnw ar ei rhan".

Doedd y Crwner, Gareth Lewis, ddim am wneud unrhyw sylw i’r wasg am fod y mater yn "destun ymchwiliad a phrosesau cyfreithiol".

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael cais hefyd i wneud sylw.

Yn 2022, fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys ei bod nhw'n cynnal adolygiad fforensig o ddeunydd mewn cysylltiad gyda'r marwolaethau o'r enw Operation Hallam, ac maen nhw wedi archwilio nifer o eitemau o ffermdy Ffynnon Samson ar gyfer tystiolaeth DNA, olion bysedd a grwpiau gwaed. 

Roedd hynny yn dilyn pwysau gan bapur bro Clebran ac aelodau o'r teulu.

Image
Y bedd yn mynwent Capel Rhydwilym
Y bedd ym mynwent Capel Rhydwilym

Yn ôl yr heddlu, mae "llawer iawn o waith cymhleth" wedi ei gwblhau fel rhan o'r ymchwiliad.

Cafodd yr eitemau canlynol eu darganfod a'u harchwilio yn ystod yr ymchwiliad:

- dyddiaduron a gadwyd gan Martha Thomas

- dogfennau gwreiddiol o'r ymchwiliad

- olion bysedd a lluniau o olion bysedd

- mowld post-mortem o ôl dwylo'r ddau

- tapestri oedd yng ngofal aelodau'r teulu yn Llundain

Roedd Griff a Patti Thomas, 73 a 70 oed, wedi byw yn ffermdy Ffynnon Samson, Llangolman ar hyd eu hoes ac yn ddi-briod.

Ar 11 Rhagfyr 1976 fe lansiwyd ymchwiliad i lofruddiaeth ddwbl wedi i gyrff y ddau gael eu canfod yn eu cartref gan y postmon lleol, Nigel Rossiter.

Y gred yw bod y ddau wedi marw rai dyddiau ynghynt ar 7 Rhagfyr. Roedd gan y ddau anafiadau i'r pen.

Ddeufis wedyn daeth cwest i'r canlyniad fod Patti wedi ei lladd yn anghyfreithlon wedi iddi ddioddef ymosodiad dan law ei brawd.

Cafwyd rheithfarn agored o ran achos marwolaeth Griff Thomas, ond roedd yr Heddlu'n credu ei fod e wedi marw ar ôl rhoi ei hun ar dân.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.