Sgandal Mandelson: Diwrnod tyngedfennol i Keir Starmer

Keir Starmer

Bydd Syr Keir Starmer yn wynebu pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth a allai arwain at ymchwiliad i honiadau iddo gamarwain Aelodau Seneddol mewn cysylltiad â sgandal Peter Mandelson.  

Aelodau Seneddol fydd yn penderfynu a ddylai'r Pwyllgor Breintiau gynnal ymchwiliad.

Mae Prif Weinidog y DU wedi gwadu iddo gamarwain Aelodau Seneddol pan nododd fod y broses wirio gywir wedi ei dilyn cyn penodi'r Arglwydd Mandelson yn Llysgennad ar gyfer yr Unol Daleithiau, ac nad oedd swyddogion o'r Swyddfa Dramor o dan "bwysau o gwbl" yn ystod y broses honno.

Fis Medi, cafodd yr Arglwydd Peter Mandelson ei ddiswyddo fel llysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau wedi beirniadaeth chwyrn am ei gyfeillgarwch â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Ddechrau Ebrill, daeth hi i'r amlwg fod Syr Keir Starmer "yn gandryll" am na chafodd wybod bod Peter Mandelson wedi methu archwiliad gwirio diogelwch cyn cael ei benodi'n Llysgennad y DU i'r Unol Daleithiau.

Yn fuan wedi hynny, collodd Syr Olly Robbins, prif was sifil y Swyddfa Dramor ei swydd.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch wedi dweud sawl tro fod Syr Keir Starmer wedi camarwain "droeon" ar y mater hwn. 

Yn ôl Rhif 10 Downing Street, mae'r cais yn "gêm wleidyddol" gan y Blaid Geidwadol, sydd wedi gofyn am y bleidlais.  

Nos Lun, siaradodd Syr Keir Starmer ag aelodau seneddol y Blaid Lafur yn San Steffan, mewn cyfarfod a oedd wedi ei drefnu cyn y bleidlais ddydd Mawrth. 

Galwodd arnyn nhw i'w gefnogi a glynu gyda'i gilydd fel plaid.

Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle sydd wedi caniatáu'r bleidlais ar ôl cais gan yr Arweinydd Ceidwadol Kemi Badenoch ac aelodau seneddol eraill. 

Dwyrain Canol 

Yn y cyfamser, bydd Syr Keir Starmer yn cadeirio cyfarfod brys ddydd Mawrth i drafod y Dwyrain Canol, wrth iddo rybuddio y gallai effaith y rhyfel yn Iran barhau am beth amser eto.  

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'n bosib y bydd effaith economaidd y rhyfel yn parhau am o leiaf wyth mis wedi i'r gwrthdaro ddod i ben. 

Bydd cynrychiolwyr Banc Lloegr yn bresennol yn y cyfarfod i drafod effaith economaidd y rhyfel, yn sgil prisiau uchel tanwydd. 

Yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae e wedi galw'r cyfarfod er mwyn profi bod ei lywodraeth yn "cyd-sefyll â phobl sy'n gweithio, yn yr argyfwng presennol." 

Wrth siarad a chynrychiolwyr undeb, rhybuddiodd y gallai'r goblygiadau economaidd barhau am gryn amser eto. 

"Does dim angen i chi fod yn wleidydd i wybod hynny, gallwch weld yr effaith ym mhob gorsaf betrol," meddai.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal wrth i brisiau olew gyrraedd y lefel uchaf mewn tair wythnos ddydd Llun, wrth i'r gobeithion bylu bod modd i Iran ac America ddod i gytundeb yn y trafodaeth heddwch.  

Roedd disgwyl i'r trafodaethau ail ddechrau ym Mhacistan, cyn i Arlywydd America, Donald Trump gyhoeddi dros y Sul na fyddai swyddogion o Washington bellach yn teithio i Islamabad am nad oes camau cadarnhaol wedi eu cymryd yn y trafodaethau ag Iran.  

Yr wythnos diwethaf, dywedodd bod y cadoediad rhwng America ac Iran, a gafodd ei ffurfio ar 7 Ebrill yn cael ei ymestyn, ond does dim dyddiad wedi ei osod pan fydd yn dod i ben.  

Dechreuodd yr ymladd ar 28 Chwefror, ac mae'r gwrthdaro wedi llacio yn sylweddol ers i'r cadoediad ddod i rym. 

Ond does dim cytundeb hirdymor eto, gyda'r blocâd yng Ngulfor Hormuz yn parhau. 

Mae'r llwybr hwnnw'n allweddol gan fod 20% o gyflenwadau olew y byd yn arfer teithio drwyddo.

Disgynnodd prisiau olew ganol Ebrill, pan roedd hi'n ymddangos fod y trafodaethau i ailagor y culfor yn fwy addawol. 

Ond yn sgil cyhoeddiad yr Arlywydd Trump dros y Sul, mae'r prisiau wedi codi yn sylweddol unwaith yn rhagor.  

Wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod ddydd Mawrth, pwysleisiodd Syr Keir Starmer bod Llywodraeth y DU wedi gosod cap ar gostau ynni tan fis Gorffennaf, be bynnag fo'r sefyllfa yn Iran, ac mae disgwyl i'r dreth ar danwydd barhau wedi ei rhewi tan fis Medi.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.