Seren y West End yn gobeithio ysbrydoli Cymry eraill o gefndiroedd Asiaidd

ITV Cymru

Seren y West End yn gobeithio ysbrydoli Cymry eraill o gefndiroedd Asiaidd

Mae seren y West End o Gaerfyrddin yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd ei llwyddiant yn ysbrydoli Cymry eraill o gefndiroedd Asiaidd, ar ôl teimlo nad oedd hi’n “Gymraes gywir”. 

Yn ôl Serenar Douch, 21 oed, sydd bellach yn byw yn Llundain, does dim digon o straeon am bobl o’i chefndir ethnig hi yn llwyddo.

“Yn enwedig fel menyw Cymraeg gyda chefndir Asiaidd, does dim llawer o bobl i fi edrych lan atyn nhw neu bobl arall Asiaidd sy'n siarad Cymraeg.

“Hoffwn i gynrychioli'r ochr yma o fi i ferched arall sydd falle ddim yn teimlo fel eu bod nhw yn perthyn fel ‘Cymraes gywir’".

Fe ddechreuodd Serenar berfformio am y tro cyntaf yn y West End fel rhan o gast Moulin Rouge am ddwy flynedd. 

“Meddyliais i fod dim siawns, fi jest yn ferch ifanc o Gymru, ond dyma ni!”, meddai’r ferch o Langynnwr yn Sir Gaerfyrddin.

“Nes i fy sioe gyntaf yn 2 mlwydd oed sef ‘The King and I’ yng Nghaerfyrddin a nes i garu fe, a 16 mlwyddyn yn ddiweddarach, fi ar lwyfan y Moulin Rouge.”

“Nid oes llawer o ysbrydoliaeth i bobl fel fi i feddwl mae nhw'n gallu llwyddo, ond rydw i eisiau profi ei fod e’n bosib.”

Image
Mam-gu Serenar oedd yn ei hannog i berfformio.
Mam-gu Serenar oedd yn ei hannog i berfformio.

Uchelgais

Dechreuodd ei hangerdd dros berfformio yn ifanc iawn, gyda’i mam-gu yn ei hannog i ddilyn ei breuddwydion. 

“Mae mam-gu wastad wedi caru'r West End, hi yw fy nghefnogwr mwyaf.”

Bu’n rhan o ddosbarthiadau dawns stiwdio ‘Pineapple’ pan yn 18 oed, oedd yn gam brawychus iddi i’r diwydiant, meddai.

“Dwi’n cofio bod yno gyda mam-gu, a channoedd o ferched eisiau’r un peth a meddwl ‘there’s no chance’.

“Ar ôl wythnosau o aros am ateb a call-backs, aeth ffôn fi mynd bant, ac asiant fi oedd yno yn dweud ’mod i wedi cael y rôl.” 

“Dyna oedd un o eiliadau gorau fy mywyd wna’i fyth anghofio.”

Ar hyn o bryd, mae Serenar yn gweithio fel coregoraffydd yn Academi Emil Dale yn Llundain, ond ei breuddwyd yn perfformio yn y sioe gerdd ‘Six’.

Beth bynnag ddaw nesaf, mae’n benderfynol o wneud argraff yn y maes.

“Does byth ’di bod plan B. Fi’n caru bod ar y llwyfan. Fel person rydw i’n eithaf swil, ond yr eiliad fi’n camu mewn i gymeriad fi fel person gwahanol, hyderus. 

"Dyna’r rhan fi’n hoffi fwyaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.