Seren Cymru Jess Fishlock i ymddeol o bêl-droed
Ar ôl iddi gyhoeddi ei hymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol fis Hydref diwethaf, mae Jess Fishlock wedi cyhoeddi y bydd hi'n ymddeol o bêl-droed yn gyfangwbl ar ddiwedd tymor 2026 yn America, lle mae hi'n gapten Clwb Pêl-droed Seattle Reign.
Mae hi wedi treulio 14 mlynedd gyda'r clwb, gan sgorio 49 gôl, yr ail fwyaf yn hanes y tîm.
A hi yw'r unig chwaraewraig a oedd yn rhan o'r tîm gwreiddiol yn 2013.
Jess Fishlock ydy'r chwaraewraig gyntaf yn hanes Cymru i ennill 150 o gapiau dros ei gwlad, gan hefyd dorri'r record am nifer y goliau dros Gymru.
Sgoriodd 48 o goliau rhyngwladol yn ystod ei gyrfa. Yn nhîm y dynion, Gareth Bale yw'r prif sgoriwr, gyda 41 o goliau.
Hi yw'r ddynes hynaf erioed i sgorio ym mhencampwriaethau Ewrop y menywod, wedi iddi sgorio yn erbyn Ffrainc yn ystod Euro 2025, a hithau yn 38 oed.
Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi chwarae dros glybiau ar draws y byd, gan gynnwys Glasgow, AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd, Melbourne Victory a Melbourne City yn Awstralia, a FFC Frankfurt yn Yr Almaen.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am ei hymddeoliad, dywedodd Prif Hyfforddwriag Seattle Reign, Laura Harvey fod "Jess yn un o'r chwaraewyr gorau erioed i chwarae yn y gynghrair."
Wrth ddiolch i gefnogwyr Seattle, dywedodd Jess Fishlock: "Dyma lle rydw i wedi tyfu, brwydro, a lle rydw i wedi profi rhai o eiliadau gorau fy ngyrfa."
Fis Mawrth, ymunodd Jess Fishlock â thim hyfforddi Cymru ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Brasil 2027.
Ymunodd â'r prif hyfforddwr Rhian Wilkinson fel cynorthwyydd technegol ar gyfer y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar 3 Mawrth
Doedd hi ddim yn bresennol ar gyfer yr ail gêm yn erbyn Montenegro bedwar diwrnod yn ddiweddarach, a hynny oherwydd paratoadau Seattle Reign ar gyfer eu tymor newydd fis Ebrill.
Llun: Asiantaeth Huw Evans
