Seiclo: Josh Tarling i 'anrhydeddu' ei frawd Finlay drwy rasio yn Sbaen
Fe fydd y seiclwr o Gymru, Josh Tarling, yn rasio yn y Vuelta a España ddydd Sadwrn, ddyddiau’n unig wedi i’w frawd Finlay gael ei ladd mewn ras ym Mhortiwgal.
Roedd Finlay, 19, yn rasio dros ei dîm NSN Development Team yn y Volta a Portugal ar Awst 14 pan gafodd ei daro gan gerbyd nad oedd yn rhan o’r ras.
Mae marwolaeth y seiclwr addawol, oedd yn dod o Ffos-y-ffin ger Aberaeron, wedi ennyn llu o deyrngedau teimladwy o fewn y gymuned beicio, yn ogystal â chynddaredd ynghylch amgylchiadau’r gwrthdrawiad.
Ddydd Iau, cyhoeddodd rhieni’r brodyr Tarling y byddai Josh, sy’n 22 ac yn rhan o dîm Netcompany-Ineos, yn cymryd rhan yn y ras daith sy’n cychwyn yn Sbaen dros y penwythnos.
“Bydd Joshua yn reidio yn y Vuelta ddydd Sadwrn,” meddai eu mam, Dawn Tarling, ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae e wedi penderfynu gwneud hynny i anrhydeddu ei frawd, Fin, gyda chefnogaeth lawn ei deulu a thîm o’i gwmpas sydd wedi bod yn arbennig o gefnogol o beth bynnag fyddai ei benderfyniad.”
'Anrhydeddu cariad a balchder Finlay'
Dywedodd y cwpl bod y brodyr “mor agos” fel plant a Josh yn frawd mawr “cefnogol a chariadus” i Finlay. Ychwanegon nhw fod Josh wedi bod “yn gefn anhygoel i ni i gyd” wedi marwolaeth ei frawd.
“Roedd Finlay yn arbennig o falch o’i frawd mawr, ac fe fyddai’n gwylio gyda’i drwyn ar y teledu ac yn gweiddio pan fyddai’n cystadlu,” meddai’r datganiad.
“Felly mae'n briodol bod Josh yn anrhydeddu cariad a balchder ei frawd drwy wneud yr hyn yr oedd Fin bob amser wrth ei fodd yn ei wylio'n ei wneud.”
Mae marwolaeth Finlay Tarling wedi arwain at alwadau i wella diogelwch mewn rasys seiclo, gyda’r undeb sy’n cynrychioli beicwyr proffesiynol yn dweud eu bod yn “gynddeiriog” am y sefyllfa.
Bydd y Vuelta a España, un o brif gystadlaethau’r byd seiclo, yn cychwyn ar Awst 22 ym Monaco, ac yn dod i ben ar Fedi 13.
