Sefyll ar y Sgwâr: Sioe gerdd newydd yn ddathliad o gerddoriaeth Ail Symudiad
Fe fydd sioe gerdd newydd sydd yn dathlu cerddoriaeth Ail Symudiad yn cael ei pherfformio ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol nos Lun.
Dywedodd Siwan Llynor, cyfarwyddwr Sefyll ar y Sgwâr, mai bwriad y sioe yw dathlu cyfraniad ac etifeddiaeth Richard a Wyn Jones i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.
"Mae nifer o’u caneuon yn sôn yn uniongyrchol am ardal yr Eisteddfod eleni, a’r gobaith yw ein bod wedi llwyddo i drawsnewid y Pafiliwn yn un gig mawr, gyda chyfle i ddathlu rhai o ganeuon mwyaf eiconig Cymru,” meddai.
Er bod y caneuon yn debyg o fod yn gyfarwydd, mae’r gerddoriaeth yn dra gwahanol, ychwanegodd.
“Caneuon Ail Symudiad ydyn nhw i gyd, does dim dadlau am hynny, ond mae Steffan Rhys Williams fel Cyfarwyddwr Cerdd wedi eu trefnu yn null cerddorol y 1960au yn hytrach na chyfnod Rich a Wyn yn yr ‘80au," meddai.
"Fel plant y cyfnod, fe fuasai’r ddau frawd wedi clywed, ac efallai’n cael eu dylanwadu gan gerddoriaeth grwpiau fel y Beatles, oedd yn eu tro wedi dod o dan ddylanwad pobl fel Elvis Presley."
Canolbwynt y sioe
Mae'r stori’n digwydd mewn caffi ar y sgwâr yn y dref.
“Mae’n lle poblogaidd, ac mae pobl y dref yn dod yno i gael paned a sgwrs," meddai Siwan Llynor.
"Y testun siared mawr yw’r bwriad gan ddatblygwr, John Lord, i weddnewid canol y dref gan adeiladu canolfan siopa fawr. Honna John Lord y bydd hyn yn sicrhau dyfodol y dref, gyda phopeth yn newydd a sgleiniog.
“Ond nid yw’r trigolion yn rhannu ei weledigaeth, ac maent yn penderfynu gwrthwynebu. Cawn weld beth maen nhw’n wneud, ac os ydyn nhw’n llwyddo erbyn diwedd y sioe."
Prif gymeriadau eraill y sioe yw Nansi, fydd yn cael ei phortreadu gan Betsan Lees, a’i mam (Llinor ap Gwynedd), gyda Mefin Hughes yn cymryd rhan Morys.
“Ro’n i’n awyddus i gael cymaint ag sy’n bosib o acenion lleol i’r sioe, a dwi wrth fy modd bod Mefin a Betsan yn cymryd rhan gan y byddwn ni’n sicr yn clywed lleisiau’r fro ar y llwyfan," ychwanegodd Siwan.
"Mae gan Betsan a Llinor gysylltiadau agos â’r ardal, ac mae Mefin, sy’n aelod o’r grŵp Lafant, yn hannu o Gwm Gwaun."
Ryland Teifi sy'n chwarae rhan John Lord.
Yn enedigol o’r ardal, mae’n actor a cherddor profiadol sydd wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers degawdau.
Gwahoddwyd cantorion bro’r Eisteddfod i ymuno â’r côr ddechrau’r flwyddyn, ac fe gafwyd ymateb anhygoel medd y trefnwyr, gyda dros 250 wedi ymgynnull ar gyfer yr ymarfer cyntaf. Wrth i’r ymarferion barhau, ymunodd mwy o gantorion ac erbyn canol Ebrill, roedd dros 300 ohonynt.
Mae Sefyll ar y Sgwar ym Mhafiliwn yr Eisteddfod am 19.30 nos Lun.