Rygbi: Jac Morgan yn disgwyl her anodd yn erbyn Japan yng Nghaerdydd

Rygbi: Jac Morgan yn disgwyl her anodd yn erbyn Japan yng Nghaerdydd

Mae blaenasgellwr Cymru, Jac Morgan, yn dweud ei fod yn disgwyl her anodd gan Japan pan fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Morgan fod y gemau diweddar rhwng y ddwy wlad wedi bod yn agos, a'i fod yn disgwyl i Japan chwarae rygbi ymosodol.

"Ni 'di cael cwpwl o gemau caled yn erbyn nhw dros y cwpwl o flynyddoedd diwetha'. Ma' nhw 'di bod yn gemau agos," meddai.

"Ni'n gwybod ma' nhw'n mynd i bod yn dîm eitha' ymosodol y ffor' ma' nhw'n warae a ie, ni'n gwybod faint o sialens mae fe'n mynd i bod yn erbyn nhw.

"Ni'n mynd i jyst trial canolbwyntio arno beth ni'n gallu canolbwyntio, trio rhoi perfformiad mewn ar y penwythnos."

Image
Jac Morgan yn ystod sesiwn hyfforddi. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Jac Morgan yn ystod sesiwn hyfforddi. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Dyma fydd y pedwerydd tro i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd ers mis Gorffennaf 2025.

Fe enillodd Japan y prawf cyntaf rhwng y timau yn ystod taith Cymru i'r wlad ym mis Gorffennaf y llynedd, gan sicrhau buddugoliaeth o 24-19.

Ond fe ymatebodd Cymru wythnos yn ddiweddarach gyda buddugoliaeth o 31-22 yn yr ail brawf.

Pan ddaeth Japan i Gaerdydd ym mis Tachwedd 2025, fe gipiodd Cymru fuddugoliaeth o 24-23 diolch i gic gosb hwyr gan Jarrod Evans.

Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Steve Tandy fel prif hyfforddwr Cymru.

Mae Dafydd Jenkins ac Archie Griffin yn dychwelyd i dîm Cymru ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn, ar ôl methu tair rownd gyntaf Pencampwriaeth y Cenhedloedd oherwydd anafiadau.

Bydd Jenkins yn dechrau yn yr ail reng ochr yn ochr â Ben Carter, tra bydd Griffin yn chwarae fel prop pen tynn.

Mae Nicky Smith wedi ei ddewis fel prop pen rhydd, gyda'r capten Dewi Lake yn fachwr.

Bydd Jac Morgan yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored, gydag Alex Mann yn chwarae ar yr ochr dywyll ac Aaron Wainwright yn wythwr.

Tomos Williams a Sam Costelow fydd y mewnwyr, gyda Max Llewellyn ac Eddie James yn y canol.

Mae Louis Rees-Zammit a Josh Adams wedi eu dewis ar yr esgyll, gyda Blair Murray yn gefnwr.

Bydd y gêm yn erbyn Japan yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 16:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.