Rygbi: Cymru'n colli er gwaethaf hanner cyntaf addawol yn erbyn Ffrainc
Roedd Ffrainc yn ormod i Gymru yn yr ail hanner wrth iddyn nhw ennill 38-7 yng Nghaerdydd yn y Chwe Gwlad.
Doedd Cymru heb ennill yn erbyn Ffrainc ers 10 mlynedd cyn ddydd Sadwrn, ac roedd angen iddynt fod ar eu gorau er mwyn ceisio newid hynny ym Mharc yr Arfau.
Ar ôl chwalu’r Eidal o 40-7 ddydd Sadwrn diwethaf, roedd yr ymwelwyr yn teimlo’n hyderus wrth baratoi i wynebu’r tîm a orffennodd ar waelod y tabl y llynedd.
Ond Cymru dechreuodd orau gyda rhan fwyaf o’r diriogaeth yn y pum munud agoriadol, er iddyn nhw fethu â chreu cyfleoedd.
Tyfodd Ffrainc mewn i’r gêm wedi hynny ond roedd camgymeriadau wrth drafod y bêl yn gostus yn hanner Cymru.
Y crysau cochion oedd y cyntaf i sgorio wedi sgarmes symudol lwyddiannus yn y gornel.
Roedd blaenwyr Cymru yn rhy bwerus i flaenwyr Ffrainc ac, wrth i’r sgarmes gael ei dymchwel gan y Ffrancwyr, fe wnaeth y dyfarnwr Robbie Jenkinson ddyfarnu cais cosb i Gymru.
Cafodd Yllana Brosseau ei danfon i’r gell gosb cyn i Gymru sgorio, ac roedd ei chyd-chwaraewr Pauline Bourdon Sansus wedi ymuno â hi ar ôl dymchwel y sgarmes symudol yn anghyfreithlon.
Er gwaethaf ymdrechion Cymru, gweithiodd 13 chwaraewr Ffrainc yn galed i sgorio eu cais cyntaf wedi 22 munud.
Madoussou Fall Racot sgoriodd y cais wrth iddi groesi’r llinell gais, gyda Carla Arbez yn ychwanegu dau bwynt gyda throsiad llwyddiannus.
Fe wnaeth Ffrainc barhau i ymosod am weddill yr hanner, ond roedd amddiffyn Cymru’n gryf wrth eu hatal rhag sgorio.
7-7 ar yr egwyl.
Pum munud wedi cychwyn yr ail hanner, roedd Ffrainc wedi dangos eu dawn wrth ddadlwytho pas ar ôl pas yn hanner Cymru.
Er i'r crysau cochion atal yr ymosod ychydig o lathenni o'r llinell gais, roedd y capten Manae Feleu wedi croesi wrth ymyl y pyst cyn i Carla Arbez ychwanegu dau bwynt gyda throsiad.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ôl i Gwen Crabb dderbyn carden felen wedi 53 munud, ac roedd Ffrainc wedi gwneud y mwyaf o'r gic gosb a ddilynodd.
Rhedodd Lea Murie lawr yr asgell chwith cyn gwthio heibio Kayleigh Powell i sgorio ei chais cyntaf. 19-7 i Ffrainc.
Chwe munud yn ddiweddarach, roedd Ffrainc wedi sicrhau'r pwynt bonws wrth i Bourdon Sansus sgorio'n gampus dan y pyst.
Roedd Carla Arbez yn llwyddiannus gyda'i throsiad wrth roi Ffrainc 26-7 ar y blaen.
Gyda 10 munud yn weddill, roedd hi'n gais arall i'r Ffrancwyr wrth i Anais Grando redeg trwy amddiffyn Cymru a sgorio er gwaethaf tacl ar y gwyngalch gan Seren Lockwood.
Wrth i'r gêm agosáu at ei diwedd, roedd Grando wedi sgorio ei hail gais wedi i Ffrainc symud y bêl allan i'r gornel dde, ac roedd hi wedi croesi'r llinell yn hawdd.
Y sgôr terfynol, Cymru 7-38 Ffrainc.