Rygbi: Anghydfod rhwng y chwaraewyr a'r Undeb 'heb effeithio' Cymru cyn herio Ffiji

Rygbi: Anghydfod rhwng y chwaraewyr a'r Undeb 'heb effeithio' Cymru cyn herio Ffiji

Mae prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, yn dweud bod yr anghydfod rhwng ei garfan ac Undeb Rygbi Cymru (URC) "heb effeithio" ar y paratoadau cyn herio Ffiji ddydd Sadwrn.

Roedd anghytundeb rhwng y chwaraewyr ac URC am "delerau cyflogaeth", cyn iddynt ddod i gytundeb yn hwyr brynhawn dydd Mercher.

Roedd sefyllfa debyg yn 2023 pan oedd y chwaraewyr yn bygwth streicio cyn wynebu Lloegr yn y Chwe Gwlad.

Er gwaethaf yr anghydfod yr wythnos hon, mae Steve Tandy yn mynnu nad yw'r paratoadau ar y cae wedi cael eu heffeithio.

"A bod yn deg, mae'r chwaraewyr wedi bod yn wych," meddai.

"Dwi'n ddiolchgar bod y sefyllfa wedi'i datrys a bod pethau wedi symud ymlaen.

"Dyw'r paratoadau heb gael eu heffeithio o ran y sesiynau hyfforddi ar y cae, rydym yn gallu canolbwyntio ar wynebu Ffiji."

Image
Roedd angen i Gymru fod ar eu gorau'n amddiffynol yn erbyn Ffiji yn 2023
Roedd angen i Gymru fod ar eu gorau'n amddiffynnol yn erbyn Ffiji yn 2023 (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Bydd Cymru yn wynebu Ffiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, ac mae’r gêm yn cael ei chyfrif fel gêm gartref i Ffiji am eu bod yn chwarae eu gemau yn y gystadleuaeth dramor eleni.

Mae adroddiadau'n awgrymu mai tua 16,000 o docynnau'n unig sydd wedi'i gwerthu ar gyfer y gêm yn y brifddinas.

Dyma gêm gyntaf cystadleuaeth newydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd, lle bydd timau o hemisffer y gogledd yn herio timau o hemisffer y de dros gyfnodau’r haf a’r hydref.

Dros y blynyddoedd, mae Cymru a Ffiji wedi chwarae gemau cofiadwy, gan gynnwys yng Nghwpan y Byd 2023 yn Ffrainc.

Enillodd Cymru 32-26, ond doedd hi ddim yn gêm hawdd i'r crysau cochion o bell ffordd.

Roedd Cymru wedi cwblhau 248 tacl yn ystod yr 80 munud, y mwyaf erioed mewn gêm gystadleuol ryngwladol.

Fe allai pethau fod wedi bod mor wahanol pe bai Semi Radradra heb ollwng y bêl yn y munud olaf wrth y llinell gais.

Gêm gofiadwy arall yw buddugoliaeth Ffiji dros Gymru yng Nghwpan y Byd 2007.

Roedd angen buddugoliaeth ar y Ffijiaid i gyrraedd rownd yr wyth olaf, gan olygu y byddai Cymru allan o'r gystadleuaeth.

Enillodd y Ffijiaid 38-34 ac roedd y canlyniad yn un o'r mwyaf annisgwyl yn hanes Cwpan Rygbi'r Byd ar y pryd.

Ers hynny, mae Ffiji wedi ennill dwywaith yn erbyn Cymru, a nhw yw'r ffefrynnau i ennill ddydd Sadwrn.

Carfan Cymru

Ar ôl chwarae yn safle’r cefnwr drwy’r Chwe Gwlad, bydd Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i’r asgell ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Blair Murray yn hawlio’r crys rhif 15.

Bydd y profiadol Adam Beard hefyd yn cychwyn y gêm yn dilyn anaf i’r clo Dafydd Jenkins.

Yn y rheng flaen, mae Rhys Carre wedi’i enwi yn safle’r prop pen rhydd, gan ymuno â'r prop Dillon Lewis a’r bachwr a chapten Dewi Lake, a chwaraeodd yn y fuddugoliaeth 33-31 yn erbyn y Barbariaid yn Allianz Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae Steve Tandy yn dweud ei fod yn gyffrous i chwarae yng Nghaerdydd yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth.

“Rydyn ni’n caru bod yng Nghymru ar gyfer ein gemau," meddai.

"Mae’r gefnogaeth yn golygu llawer iawn i ni ac mae ein cefnogwyr yn anhygoel yn y ffordd y maen nhw’n dangos eu cefnogaeth i’r tîm. Rydyn ni’n gyffrous i fod yng Nghaerdydd i ddechrau Pencampwriaeth y Cenhedloedd.”

Bydd Cymru yn erbyn Ffiji yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 13:30 ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.