'Roeddem yn ei charu'n fawr': Miloedd yn y Mwmbwls i ffarwelio â Bonnie Tyler
'Roeddem yn ei charu'n fawr': Miloedd yn y Mwmbwls i ffarwelio â Bonnie Tyler
Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull i ffarwelio am y tro olaf gyda'r gantores Bonnie Tyler wrth i'w harch gael ei chludo adref mewn hers i’w hen gartref yn y Mwmbwls ger Abertawe.
Roedd y cyhoedd wedi cael eu gwahodd i "dalu eu teyrngedau" drwy sefyll ar hyd Heol Newton yn y pentref wrth i'r arch fynd heibio.
Bu farw’r gantores fyd enwog ddechrau mis Gorffennaf mewn ysbyty ym Mhortiwgal yn 75 oed.
Dechreuodd y dorf guro dwylo a chanu 'Total Eclipse Of The Heart' wrth i arch Bonnie Tyler fynd heibio.
Roedd yr arch wedi'i gorchuddio â baner Cymru gyda llun o'r gantores mewn ffrâm gerllaw.
Taflodd rhai o'r dorf flodau ar yr hers wrth iddi fynd heibio.
Roedd Bonnie Tyler, a gafodd ei geni ym mhentref Sgiwen ger Castell-nedd, yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth bop Prydain.
Gaynor Hopkins oedd ei henw'n wreiddiol.
Daeth yn enwog ledled y byd am ganeuon fel 'Total Eclipse of the Heart’, ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.
Ymysg y rhai oedd yn y dorf oedd Carys Edwards, 18 oed, sy'n dweud bod y gantores yn "ysbrydoliaeth i bawb".
Dywedodd: "Cyffyrddodd ei cherddoriaeth â llawer o bobl, fi yn arbennig.
"Rwy'n synnu faint o bobl sydd wedi dod yma heddiw, ond ar yr un pryd dydw i ddim, oherwydd roedd hi'n eicon go iawn.
“Roedd hi wastad yn dod adref ac yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n dychwelyd at ei chefnogwyr yng Nghymru.
“Roedd ei chaneuon wir yn cyffwrdd â chalon llawer o bobl yma yng Nghymru; roeddem yn ei charu hi’n fawr.”
'Merch o Abertawe'
Ychwanegodd mam Carys, Melanie Smith, 53 oed: “Y peth pwysicaf yw ei bod hi’n ferch o Abertawe, ac ni anghofiodd hynny.”
Roedd Michael Bone, 58 oed, a’i bartner Alan Hawkins, 54 oed, wedi teithio o Derby i wylio’r orymdaith.
Dywedodd Mr Bone: “Roedden ni’n meddwl y byddai’n braf talu ein teyrnged.
“I fi’n bersonol, y rheswm yw bod ei cherddoriaeth yn amlwg iawn yn ystod fy arddegau; i fi, y 1980au oedd ei chyfnod mwyaf eiconig.”
Roedd rhai wedi teithio o mor bell ag Awstria i wylio’r orymdaith yn mynd drwy’r Mwmbwls.
Dathliad o fywyd
Bydd dathliad o fywyd Bonnie Tyler yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair Abertawe ar ddydd Llun 17 Awst am 12:00 - sef diwrnod ei hangladd.
Bydd mynediad i'r eglwys ar gyfer teulu, ffrindiau a gwahoddedigion yn unig ond gall aelodau'r cyhoedd sydd am fod yno wylio'r gwasanaeth ar sgrîn fawr yn Sgwâr Dewi Sant gerllaw.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, Andrea Harrington: "Rydym yn meddwl am holl deulu a ffrindiau Bonnie yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl yn Abertawe, Cymru a thu hwnt am gael cyfle i dalu teyrnged a dathlu ei bywyd a'i chyflawniadau arbennig.
"Gofynnwn i bawb sy'n dod i unrhyw ran o'r trefniadau wneud hynny mewn modd parchus, gan ddilyn cyfarwyddiadau gan stiwardiaid a swyddogion yr heddlu, i helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn talu teyrnged deilwng i un o berfformwyr mwyaf poblogaidd Cymru."
Lluniau: PA