‘Roedd hi’n uffernol o sefyllfa’: Sut effeithiodd Chernobyl ar ffermwyr Cymru

‘Roedd hi’n uffernol o sefyllfa’: Sut effeithiodd Chernobyl ar ffermwyr Cymru

Mae ffermwyr wedi bod yn cofio effaith trychineb Chernobyl ar amaethyddiaeth yng Nghymru, 40 mlynedd ers y ddamwain niwclear waethaf erioed.

Ar 26 Ebrill 1986, fe ffrwydrodd adweithydd yng ngorsaf ynni niwclear Chernobyl, yn yr Wcráin heddiw.

Yn ystod yr wythnosau a ddilynodd ddisgynnodd glaw oedd yn cario ymbelydredd ar rannau o ogledd Cymru a rhannau eraill o Brydain.

Oherwydd pryderon y gallai’r ymbelydredd gyrraedd y gadwyn fwyd, fe gyhoeddodd y Llywodraeth waharddiad ar werthu a symud defaid oddi ar tua 10,000 o ffermydd.

Roedd gweinidogion wedi dweud y byddai’r gwaharddiad mewn grym am tua thair wythnos yn unig.

Ond fe gafodd rhai cyfyngiadau eu codi’n raddol, ac aeth 26 mlynedd heibio cyn i’r rheolaethau olaf gael eu codi yn 2012 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Wrth siarad ar raglen Ffermio S4C, dywedodd Glyn Roberts, ffermwr o Gwm Eidda ger Ysbyty Ifan, ei fod yn cofio clywed am y gwaharddiad pan oedd mewn sêl yn Rhuthun.

“Roedden ni ’di gwerthu y stoc ac wedyn roeddwn, dw i’n cofio, o’n i yn y swyddfa yn nôl pres ac fe ddoth ’na gyhoeddiad yno yn deud nad oedden ni ddim yn medru gwerthu dim byd.”

“Mi gafodd effaith ar y busnes ni a llawer iawn o rai’r un fath, chwarae teg.

Dywedodd fod y sefyllfa wedi cael effaith ariannol ar ffermwyr, ond hefyd ei fod y “boen meddwl o be fyddai effaith hyn ar iechyd” ei deulu yn y dyfodol.

Image
Defaid

Dywedodd y milfeddyg Robat Idris ei fod wedi gweld effaith y cyfyngiadau yn syth yn ystod ei waith mewn lladd-dy yng Nghaerwen ar Ynys Môn.

“Fyswn i’n ddeud yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o bobl,” meddai.

Dywedodd fod angen rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod cig yn ddiogel i’w fwyta ar y pryd, gan fod ansicrwydd ynghylch dyfodol y farchnad cig oen.

Roedd Elfyn Llwyd, a fu’n AS dros Feirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd rhwng 1992 a 2015, hefyd yn cofio’r effaith ar gymunedau gwledig. 

“Roedd yna ddigalondid dros yr ardal i gyd,” meddai.

“Roedd hi’n uffernol o sefyllfa.

“Mae hogiau sy’n amaethu, cig a gwaed ydyn nhw. Maen nhw’n magu’u stoc gorau medran nhw. Ond i be? I’w daflu nhw ffwrdd i ryw fin i rywle a da i ddim byd i neb.”

Cyfarfod llawn tensiwn

Wrth i’r cyfyngiadau barhau y tu hwnt i’r tair wythnos, fe gynyddodd y rhwystredigaeth yn y diwydiant amaeth.

Daeth rhai o weision sifil y Swyddfa Gymreig i Westy’r Eagles yn Llanrwst i drafod y sefyllfa.

Roedd Malcolm Thomas yn un o’r gweision sifil oedd yn bresennol.

“Anghofia i byth o’r noswaith ’ny, ta faint fydda i fyw,” meddai.

Yn ôl Mr Thomas, roedd hi’n ddiwrnod mart yn Llanrwst ac fe ddaeth ffermwyr i mewn i’r ystafell gan fynnu cyfarfod â Nicholas Edwards, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd.

Ar ôl galwad ffôn, fe gafodd cyfarfod ei drefnu rhwng y ffermwyr a’r Ysgrifennydd Gwladol yng Nghaerdydd ganol dydd drannoeth.

Dywedodd Glyn Roberts ei bod yn drist bod angen gweithredu fel hyn er mwyn cael sylw’r Llywodraeth.

“I mi, be sy’n drist yn yr holl beth ydy bod rhaid i’r diwydiant amaeth fod wedi gwneud pethau fel hyn ac yn braidd yn filitan er mwyn cael sylw gen y Llywodraeth,” meddai.

Image
Glyn Roberts - Tafarn yr Eagles
Glyn Roberts y tu allan i Westy’r Eagles yn Llanrwst

Digolledu ffermwyr

Yn y pen draw, fe gyflwynwyd cynllun iawndal oedd yn cynnwys taliad o £1.30 am bob anifail oedd yn cael ei brofi am ymbelydredd cyn mynd i’r gadwyn fwyd.

Roedd rhai beirniaid yn dweud bod ffermwyr wedi gwneud yn dda yn ariannol o’r trefniant.

Ond dywedodd Glyn Roberts mai digolledu ffermwyr am y gwaith ychwanegol oedd diben y taliadau.

“Os oeddach chi isio sganio bob oen, oedd y ffarmwr yn gorfod hel nhw, rhoi nhw’n gorlan,” meddai.

“Roedd hwnna’n dipyn o waith i ddweud y gwir, ar y pryd de.

“Do’n i ddim yn meddwl bod ’na neb ’di gwneud pres mawr ohono fo. Rhaid i bawb gofio hefyd, mae llafur yn costio a rhaid i rywun dalu amdano fo.”

Image
Elfyn Llwyd
Elfyn Llwyd, cyn-AS dros Feirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd.

Cafodd Elfyn Llwyd ei ethol i San Steffan yn 1992, chwe blynedd ar ôl y ddamwain.

Ond roedd rhai cyfyngiadau yn parhau, ac fe gododd y mater ar lawr Tŷ’r Cyffredin.

“Droeon oedden ni’n gofyn am yr asesiadau diweddaraf ac yn y blaen, achos oedd hi’n amser i ni gael mwy o wybodaeth am be sydd o’n blaenau ni yn y dyfodol,” meddai.

Dywedodd fod rhai gwledydd Ewropeaidd, gan gynnwys Sbaen, Ffrainc a Gwlad Belg, wedi penderfynu peidio â mewnforio cig oen hyd yn oed ar ôl i’r gwaharddiad gael ei godi.

“Fues i a rhai eraill yn mynd rownd gwahanol lysgenadaethau yn Llundain yn perswadio nhw mai rŵan oedd yr amser i ystyried ailgychwyn ar y farchnad yma.

“Yn y diwedd, mi ddoth pethau yn eu holau, ond yn hir iawn, iawn y daethon nhw.”

Dywedodd fod Chernobyl hefyd wedi cael effaith ar enw da cig oen Cymru.

“Fe gafodd o effaith mawr ar y pryd,” meddai.

“O rywbeth sy’n cael ei ystyried yn un o’r cigoedd gorau yn y byd i neb eisiau twtsiad ohono fo.”

Fe fydd eitem ar y pwnc yn cael ei ddarlledu ar raglen Ffermio am 21:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.