Richard Tice yn wynebu ymchwiliad dros fethiant honedig i ddatgan buddiant

Llun: PA
Richard Tice

Mae Comisiynydd Safonau Senedd y DU wedi agor ymchwiliad i Richard Tice dros honiad na ddatganodd fuddiant.

Cafodd yr ymchwiliad i ddirprwy arweinydd Reform UK ei agor ddydd Mawrth diwethaf ac mae’n ymwneud â rheol chwech o’r côd ymddygiad i ASau.

Yn ôl y rheol, mae’n rhaid i ASau fod yn “agored a didwyll” wrth ddatgan “unrhyw fuddiant perthnasol” yn ystod trafodion yn Nhŷ’r Cyffredin neu yn eu pwyllgorau, ac wrth gyfathrebu â deiliaid swyddi a swyddogion cyhoeddus.

Wrth ymateb i’r ymchwiliad ar y cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennodd Mr Tice: “Yn groes i’r sothach yn y cyfryngau, mae’r Comisiynydd Safonau yn ystyried cwyn gan grŵp lobïo gwrth-Semitaidd a gwrth-Israel am nad oeddwn wedi cyfeirio at fy nghofrestr buddiannau ar ddechrau dadl am ddemocratiaeth y DU a dylanwad Israel.”

Wnaeth Mr Tice ddim enwi’r grŵp yr oedd yn cyfeirio ato.

Agorwyd ymchwiliad seneddol ar wahân yn ddiweddar ynghylch rhodd o £5 miliwn a gafodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, gan y biliwnydd arian crypto Christopher Harborne cyn iddo gael ei ethol.

Cafodd yr ymchwiliad i Mr Farage ei atal ar ôl iddo sbarduno is-etholiad drwy ymddiswyddo fel AS Clacton, ond fe fyddai’n ailddechrau pe bai’n dod yn AS eto.

Count Binface, yr ymgeisydd dychanol, yw ei brif wrthwynebydd yn yr is-etholiad.

Mae’r prif bleidiau wedi boicotio’r etholiad gan eu bod yn ei ystyried yn stynt gwleidyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.