'Rhyddid ond rhanedig': Argraffiadau Maxine Hughes wrth i'r UDA ddathlu 250 mlynedd ers y Datganiad Annibyniaeth
'Rhyddid ond rhanedig': Argraffiadau Maxine Hughes wrth i'r UDA ddathlu 250 mlynedd ers y Datganiad Annibyniaeth
Mae o mor boeth yma yn Washington, dwi’n goch, dwi’n meddwl dwi angen shades, a dwi angen mynd i siarad gyda pobl.
Gofynnais wrth un person 'Tell me what does it mean to you to be American?'
Atebodd gan ddweud "Oh, just being able to do what you want, in the way of freedom but also from a Capitalist perspective, gain whatever wealth you think is necessary for your life, and yeah just the freedom to be able to do that where the government doesn’t have the right just to take your property."
Dywedodd un arall: "Well, just the land of freedom, appreciate the government and everything that we have here, we can pretty well be an independent person."
"I think it means opportunity if you create it for yourself," meddai un arall.
Dwi’n byw ychydig y tu allan i Washington DC yn Bethesda, Maryland.
Ac mae enwau Cymreig ar hyd gogledd-ddwyrain America.
Francis Lewis oedd un o’r 56 a lofnododd ddatganiad annibyniaeth yr Unol Daleithiau.
Cymro o Landaf ddaeth yn fasnachwr llwyddiannus yn Efrog Newydd ac yn cynrychioli’r dalaith yng nghyngres gyfandirol.
Ma’ pobl Cymru yn parhau i chwarae rhan allweddol ym mywyd America ac mae dylanwadau Cymreig ym mhob man.
Ma’ ‘na dal dipyn ohona ni yma, pobl o Gymru sydd wedi sefydlu bywyd ac yn magu teuluoedd yma yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Rhinallt Williams.
Dywedodd Rhinallt: "July 4th ‘leni fydd ffrindiau yn dod heibio heno ’ma, ma’ nhw’n aros efo ni am y penwythnos a ‘dan ni’n mynd i gael pwll nofio, barbeciw, mynd i gael diodydd, mynd i lawr i’r ffair gwatchad y consart a wedyn fydd hi’n tân gwyllt.
"Wedyn ddown ni’n nôl, ma’ siwr fydd ‘na fwy o fwyd, a mwy o yfad a na’i adael chdi wybod sut fydd July 5th!"
Ychwanegodd Dafydd Williams: "Dwi wedi cael fy ngofyn ‘Be da chi’n neud i ddathlu Gorffennaf y 4ydd yn America?’
"Wel, fel arfer, ‘dan ni’n mynd allan a gwisgo gwyn a coch a glas a ma’ ‘na fireworks a caneuon ar y traeth, rwbath fel ’na, ond amser hyn, ‘dan ni yn Nefyn a ’dan ni ar dop y Gwylwyr yn edrych dros Nefyn, Porthdinllaen, Morfa Nefyn, y lle gorau yn y byd."
Dwi’n Gymraes ond dwi’n hoff iawn o 4 Gorffennaf, fel arfer dwi’n dal i fyny gyda ffrindiau, cael barbeciw, falle mynd i’r pwll ac wrth gwrs, gwylio y tân gwyllt. Ond gyntaf, siopa gyda fy mab, Iori.
Mae’r diwrnod annibyniaeth yn gyfle economaidd hefyd, gyda phob siop adrannol yn cynnal sêl mawr a digon o bethau coch, gwyn a glas ar werth.
Mae tân gwyllt yn boblogaidd iawn ar 4 Gorffennaf, ma’n rwbath falle dydi pobl yn ôl yng Nghymru ddim yn gwybod nid yw tân gwyllt yn gyfreithlon ymhob talaith yn America.
Lle ‘dan ni’n byw yn Maryland, ma’ nhw’n anghyfreithlon felly y cyfan y gall Iori ei brynu yw blwch o poppers.
Mae ‘na ddathliadau sydd yn mynd ymlaen ar draws yr Unol Daleithiau y penwythnos yma, ond mae o’n wlad sydd dal yn hollol rhanedig.
Ma’ bod yn Americanwr yn gallu bod yn wahanol i bob person ond ma’ ‘na un gair sy’n dod i fyny yn aml sef ‘rhyddid’.
Ond beth mae rhyddid yn golygu? Ag ydi pawb yn teimlo yn rhydd A gyda’r hawliau oedd yn cael ei sefydlu yma 250 mlynedd yn ôl?