Rhybuddion am lifogydd wrth i Storm Boelo daro Cymru
Mae rhybuddion am lifogydd wedi’u cyhoeddi ar draws Cymru ddydd Sadwrn wrth i Storm Boelo daro’r wlad.
Mae sawl ffordd ynghau yn y de a'r gorllewin, gyda gwrthdrawiad ar ffordd yr A4119 yn ardal Llantrisant, Rhondda Cynon Taf oherwydd y glaw trwm, yn ôl Heddlu'r De.
Mae adroddiadau fod rhai heolydd o dan ddŵr a choed wedi disgyn ar ffyrdd eraill.
Yn gynnar nos Sadwrn, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod pum rhybudd coch ar gyfer llifogydd yn y de, gyda 41 o rybuddion ‘paratowch am lifogydd’ ar draws Cymru hefyd.
Mae’r rhybuddion coch am lifogydd ger Afon Tywi yn Llanwrda, Sir Gâr; Afon Elái yn Llanbedr-y-fro, Bro Morgannwg; Afon Elái yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf,:Rhondda-Porth, ac Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach, Cwm Tawe.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod perygl i lefelau dŵr afonydd godi yn uwch yn yr ardaloedd hyn, gyda’r glaw yn parhau tan 21:00 nos Sadwrn.
Gallwch weld yr holl rybuddion fan hyn.
Ffyrdd
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y B4318, Ffordd Heywood, i Manor Park ar gyrion Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro, ar gau oherwydd llifogydd. Mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.
Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi cael eu galw i'r B4242, Heol Castell-nedd, yng Nghastell-nedd Port Talbot oherwydd llifogydd. Mae'r ffordd honno ar gau i draffig i'r ddau gyfeiriad rhwng Aberdulais ac Abergarwed, ac mae disgwyl iddi fod ar gau am beth amser.
Ac mae llifogydd ar ffordd yr A470 tua'r gogledd rhwng Glyn-taf a Phontypridd.
Yn gynharach ddydd Sadwrn cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn ar gyfer Cymru gyfan.
Mae’r rhybudd melyn am law mewn grym rhwng 11:00 a 23:00.
Mae rhybudd melyn am wynt hefyd yn berthnasol i rannau o ogledd Cymru, gan gynnwys ardaloedd yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn debygol y bydd llifogydd ar y ffyrdd yn arwain at deithiau hirach ddydd Sadwrn.
Gallai’r tywydd hefyd darfu ar wasanaethau trenau a bysiau, gyda theithiau’n cymryd mwy o amser neu rai gwasanaethau’n cael eu canslo.
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi canslo rhai gwasanaethau trên ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd garw.
Mae’r tywydd garw wedi tarfu'n ddifrifol ar wasanaethau trên y Cymoedd, ar ôl i wrthrych daro’r gwifrau trydan uwchben y rheilffordd ger Abercynon ychydig ar ôl 18:00.
Mae teithwyr yn cael eu cynghori i beidio â theithio ar wasanaethau trên rhwng Pontypridd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful nos Sadwrn.
Mae Stena Line, sy’n gweithredu gwasanaeth fferi rhwng Caergybi a Dulyn, hefyd wedi canslo rhai teithiau brynhawn a nos Sadwrn.
Mae’n debygol y bydd toriadau i gyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill hefyd, ac mae’n bosibl y bydd llifogydd yn effeithio ar rai cartrefi a busnesau.
Storm Austen oedd y gyntaf o’r tymor o dywydd garw i daro Cymru ddydd Gwener, gyda rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar draws rhannau helaeth o Gymru a Lloegr.
Fe wnaeth y storm achosi toriadau trydan a effeithiodd ar filoedd o gartrefi yng Nghymru a Lloegr.