Rhybudd tywydd am fellt a tharanau i Gymru ddydd Gwener
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd am fellt a tharanau ar gyfer Cymru ddydd Gwener.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar bob un o siroedd Cymru heblaw am Ynys Môn a Sir Benfro, rhwng hanner nos a 10.00 fore Gwener.
Daw’r rhybudd ar ôl pedwar diwrnod o rybuddion oren a choch ar gyfer gwres eithafol.
Mae disgwyl i’r storm symud tua’r gogledd-ddwyrain ar draws rhannau o Gymru a Lloegr yn ystod oriau mân ddydd Gwener.
Mae perygl y gallai'r storm achosi toriadau pŵer, arwain at wyntoedd cryfion o 50 i 60mya, neu achosi llifogydd, meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mae mellt aml, cenllysg a glaw trwm - o bosib 15-20mm mewn awr - yn beryglon ychwanegol,” medden nhw.
“Gall dŵr yn tasgu a llifogydd sydyn arwain at amodau gyrru anodd a rhai ffyrdd yn cau.
“Ystyriwch a yw eich lleoliad mewn perygl o lifogydd sydyn. Os felly, ystyriwch baratoi cynllun llifogydd a chit llifogydd brys.”