Rhybudd melyn am fellt a tharanau i'r rhan fwyaf o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fellt a tharanau i'r rhan fwyaf o Gymru fore Iau, wedi rhybudd i rannau o'r wlad ddydd Mercher.
Fe fydd y rhybudd ddydd Iau mewn grym rhwng 06:00 a 22:00 ddydd Iau, ac yn effeithio ar bob rhan o Gymru heblaw am Sir Benfro, Abertawe a Bro Morgannwg.
Daw wedi rhybudd melyn am fellt a tharanau ar gyfer dwyrain Cymru ddydd Mercher.
Mae’r rhybudd ddydd Mercher ar gyfer siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, rhannau o Wynedd, Sir Fynwy, Powys a Wrecsam.
Daeth i rhybudd hwnnw i rym am 03:00 fore Mercher ac mae'n parhau tan 22:00 nos Fercher.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'n debygol iawn y bydd y rhybudd ddydd Iau yn effeithio ar amodau gyrru, gyda dŵr ar y ffordd, dŵr yn tasgu neu genllysg, gan arwain at deithiau hirach mewn ceir a bysiau.
Mae oedi i wasanaethau trên hefyd yn bosib.
Mae’r rhybudd yn dweud y gallai mellt achosi rhywfaint o ddifrod i rai adeiladau a strwythurau, ac mae colli trydan neu wasanaethau eraill am gyfnod byr yn debygol mewn rhai ardaloedd.
Mae llifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau hefyd yn bosib, gyda phosiblrwydd y gallai achosi difrod i adeiladau neu strwythurau.
Fe allai hyd at 50mm o law ddisgyn mewn cyfnod o ddwy i dair awr, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Fe fydd y rhybudd dydd Iau yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Caerdydd
- Conwy
- Gwynedd
- Sir Fynwy
- Powys
- Wrecsam
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Sir Gâr
- Sir Ddinbych
- Ynys Môn
- Castell-nedd Port Talbot
- Rhondda Cynon Taf
- Caerffili
- Ceredigion
- Sir y Fflint
- Merthyr Tudful
- Casnewydd
- Torfaen
