Rhybudd melyn am fellt a tharanau i Gymru gyfan
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fellt a tharanau i Gymru gyfan ddydd Sul.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 11:00 a 23:59 ddydd Sul, gan effeithio ar bob sir yng Nghymru.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai stormydd ddod â rhwng 10 a 15mm o law mewn cyfnod byr mewn rhai mannau, gyda rhwng 30 a 40mm yn bosib dros gyfnod o rai oriau.
Yn ôl yr asiantaeth, gallai'r tywydd arwain at amodau gyrru anodd, gyda ffyrdd yn wlyb a dŵr yn tasgu, neu genllysg mewn rhai mannau. Gallai hynny olygu teithiau hirach mewn ceir a bysiau.
Mae posibilrwydd hefyd o oedi i wasanaethau trên.
Dywedodd y rhybudd y gallai mellt achosi difrod i rai adeiladau a strwythurau, ac y gallai rhai ardaloedd wynebu toriadau byr i gyflenwadau trydan.
Mae perygl hefyd o lifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau, a allai achosi difrod i adeiladau neu strwythurau.
Gall hyrddiadau gwynt gyrraedd rhwng 35-45mya, ond mae disgwyl i gawodydd o law trwm a stormydd ostegu tuag at y nos.