Rhybudd y gallai cymunedau Gaeleg ddiflannu o'r Alban 'o fewn cenhedlaeth'

Alban

Mae’n bosib y bydd cymunedau Gaeleg yn diflannu yn yr Alban “o fewn y genhedlaeth hon”, yn ôl arbenigwr ar yr iaith.

Er bod yna gynnydd yn y nifer o bobl sydd yn medru siarad Gaeleg, mae Conchúr Ó Giollagáin, athro ymchwil Gaeleg ym Mhrifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yn yr Alban, yn dweud fod pobl yn fwy diweddar wedi dysgu "Gaeleg symbolaidd” fel ail iaith.

Mae ffigyrau diweddaraf y cyfrifiad yn dangos fod gan 130,161 o bobl rai sgiliau Gaeleg yn 2022, sydd yn gynnydd o 43,105 ers 2011.

Ond mae’r Athro Ó Giollagáin yn credu mai “dirywiad cymdeithasol o gymunedau iaith brodorol” yw’r “tueddiad cyffredinol” yn y wlad bellach.

Dywedodd wrth y Pwyllgor Materion Albanaidd yn Senedd yr Alban bod “diwylliant Gaeleg nawr dan straen cymdeithasol sylweddol”.

Mewn cymunedau lle mae'r Aeleg yw’r brif iaith - yn Ynysoedd y Gorllewin, yr Ucheldiroedd ac Argyll a Bute, dywedodd yr Athro Ó Giollagáin bod niferoedd o siaradwyr yr iaith yn gostwng bob dydd, tra bod nifer y bobl sy’n ei defnyddio fel prif iaith hefyd yn gostwng.

Dywedodd wrth y pwyllgor: “Os byddwn yn parhau fel yr ydym, heb newid strategol sylweddol a chefnogaeth wleidyddol, yr hyn a fydd gennym yn fuan o fewn y genhedlaeth hon yw siaradwyr Gaeleg ail iaith yn unig ac na fydd gennym gymunedau iaith brodorol sy'n siarad Gaeleg."

Dywedodd nad oedd pobl yn y cymunedau hyn “yn hapus gyda’r hyn sy’n digwydd.”

Ychwanegodd: “Nid oes unrhyw un yn dymuno gweld diwylliant o siaradwyr iaith gyntaf yn dirywio, a dyna’r gwirionedd.”

Dywedodd fod astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2020 yn awgrymu mai dim ond 11,000 o siaradwyr brodorol o'r Aeleg oedd bellach yn yr Alban, gyda mwyafrif y grŵp hwn yn bobl 50 oed a hŷn.

Ychwanegodd yr Athro Ó Giollagáin: “Yr hyn yr ydym yn ei weld ar un lefel yw cynnydd yn yr hyn y gallem gyfeirio ato fel Gaeleg symbolaidd, neu Aeleg ail iaith, a'r gostyngiad parhaus mewn Gaeleg iaith gyntaf, neu frodorol”.

Dywedodd Dr Ingeborg Birnie, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Strathclyde, wrth y pwyllgor: “Mae'r iaith Aeleg yn yr Alban wedi bod yn rhan annatod o'r wlad ers amser hir iawn, mae'r iaith a'r diwylliant wedi'u cydblethu â phwy yw pobl yr Alban”.

Ond ychwanegodd: “Mae'r iaith wedi bod yn dirywio ers amser hir iawn.”

Llun: Amanda Slater

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.