Rhybudd am dywydd poeth iawn i redwyr Ras yr Wyddfa eleni

Ras yr wyddfa

Mae trefnwyr Ras yr Wyddfa eleni wedi rhybuddio rhedwyr am dywydd poeth ddydd Sadwrn.

Mae Ras yr Wyddfa yn cael ei hystyried fel un o fawrion y byd rhedeg mynydd, gyda channoedd o redwyr o bob rhan o Ewrop yn teithio i Gymru i fod yn rhan o'r ras 10 milltir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. 

Dywedodd Tîm Ras yr Wyddfa bod angen i redwyr gario digon o ddŵr gyda nhw ac mai “chi sy'n gyfrifol am eich hydradiad a'ch lles eich hun”.

Bydd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ar lwybr Llanberis, ynghyd â dros 50 o stiwardiaid ar hyd llwybr y ras i fyny ac i lawr, medden nhw.

“Bydd dŵr ar gael mewn nifer cyfyngedig o leoedd ar hyd y llwybr mynyddig, fel sydd wedi bod yn wir am y 49 mlynedd diwethaf, ond rhaid i chi beidio â dibynnu'n llwyr ar y cyflenwadau hyn,” medden nhw.

“Rhaid i bob rhedwr gario digon o ddŵr i ddiwallu eu hanghenion eu hunain drwy gydol y ras.”

Maen nhw’n annog y rhedwyr i:

  • Sicrhau eu bod nhw wedi yfed digon cyn y ras.
  • Cario digon o ddŵr gyda nhw.
  • Yfed yn rheolaidd – a pheidio ag aros nes eu bod yn sychedig.
  • Gwylio am arwyddion dadhydradiad a salwch gwres.

“Os byddwch yn dechrau teimlo'n sâl, yn benysgafn, yn ddryslyd, neu'n methu â pharhau'n ddiogel, stopiwch a thynnwch yn ôl o'r ras,” meddai’r trefnwyr.

“Does dim cywilydd gwneud y penderfyniad cywir. Bydd yr Wyddfa yno y flwyddyn nesaf ac rydych chi eisiau bod ar y llinell gychwyn.

“Byddwn yn gwneud popeth rhesymol o fewn ein gallu, ond ni allwn gymryd cyfrifoldeb am hydradiad unigolion na phenderfyniadau personol yn ystod y ras.”
Nid tywydd poeth yn unig sydd wedi effeithio ar Ras yr Wyddfa dros y blynyddoedd diwethaf, gyda ras 2023 yn cael ei chynnal ynghanol rhybudd tywydd garw am wyntoedd cryfion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.