'Ry ni’n datblygu fel tîm': Steve Tandy’n gobeithio am y gorau yn erbyn y Springboks

Steve Tandy

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi dynion Cymru wedi dweud fod chwarae yn erbyn pencampwyr y byd yn mynd i fod yn "arbennig".

Dywedodd Tandy fod y chwaraewyr yn datblygu fel tîm a bod cwblhau’r tymor yn erbyn pencampwyr y byd yn "gyfle i brofi pethau gwahanol".

Daw ei sylwadau wrth i Gymru wynebu her De Affrica yn Durban brynhawn ddydd Sadwrn gyda sylwebwyr yn darogan colled arall i Gymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. 

Fe gurodd Cymru Ffiji yn eu gêm agoriadol cyn colli yn yr Ariannin wythnos yn ôl. 

Mae De Affrica wedi curo Lloegr a’r Alban yn eu dwy gêm ac wedi gwneud 10 newid i'w tîm yn erbyn Cymru.

Mae Cymru wedi ennill dim ond wyth o 44 gêm yn erbyn pencampwyr y byd gan golli 35 o weithiau ag un gêm gyfartal.

Daeth un o fuddugoliaethau Cymru yn Ne Affrica yn 2022.

Mae’r golled yn erbyn yr Ariannin yn golygu fod Cymru nawr yn safle 12 ar restr detholion y byd ac fe gollon nhw o 73-0 yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd yn yr Hydref.

Mae Louis Rees-Zammit wedi ail-ennill ei le yn y 15 cychwynnol i Gymru ar ôl cael ei ddewis ar y fainc yn erbyn yr Ariannin.

Mae Tandy wedi gwneud chwe newid i’r pymtheg cychwynnol ddechreuodd y gêm yn yr Ariannin, gyda Teddy Williams yn ymuno gydag Adam Beard yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, mae Alex Mann yn dechrau ar yr ochr dywyll. Jac Morgan fydd yn flaen-asgellwr agored unwaith eto tra bydd Aaron Wainwright yn parhau’n safle’r wythwr.

Bydd Dan Edwards yn dychwelyd i safle’r maswr, tra bydd Tomos Williams yn fewnwr unwaith yn rhagor.

Mae Ben Thomas, sy’n dechrau fel canolwr cyntaf, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, gyda Max Llewellyn yn bartner iddo yng nghanol y cae.

Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn dechrau ar y ddwy asgell, tra bod Blair Murray yn cadw ei le’n gefnwr.

Roedd Rees-Zammit ar y fainc ar gyfer ail gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ddydd Sadwrn oddi cartref yn erbyn yr Ariannin.

Mae Cymru wedi dewis chwech o flaenwyr a dau olwr ar y fainc. Ryan Elias, Nicky Smith a Ben Warren yw’r eilyddion o safbwynt y rheng flaen. Mae Freddie Thomas, ymunodd â’r garfan yn Durban ddydd Mawrth, yn cynnig opsiwn arall o safbwynt yr ail reng. 

Tommy Reffell a James Botham yw’r eilyddion rheng ôl, tra mai Reuben Morgan-Williams a Joe Hawkins yw’r ddau olwr sy’n dechrau ar y fainc.

Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg cychwynnol. 

“Mae’r tymor yn dod i ben, ry’n ni wedi teithio llawer iawn yn ddiweddar, ac mae rhai o’r bechgyn yn haeddu eu cyfle. Mae hyn hefyd yn gyfle i ni ddod ag ychydig o egni ffres i’r tîm.

“De Affrica yw Pencampwyr y Byd wrth gwrs ac mae ganddyn nhw ddyfnder anhygoel ar gael iddyn nhw.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gêm ni a cheisio gosod ein hawdurdod a’n patrwm ein hunain ar y chwarae.

“Ry’n ni eisiau dangos bod ochr gorfforol i’n gêm ni hefyd a hynny’n erbyn tîm mwyaf corfforol yn y byd siŵr o fod.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni fod yn fwy corfforol yn yr ornest yma na’n gemau diwethaf – ond mae hwn yn gyfle gwych i ni brofi ein hunain yn erbyn y tîm gorau yn y byd.”

Bydd y gêm rhwng De Affrica a Chymru yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 16.40 ddydd Sadwrn.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.