Rhybudd coch prin am wres eithafol i dde ddwyrain Cymru
Mae rhybudd coch am wres eithafol wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru, gyda phosibilrwydd y bydd y tymheredd yn cyrraedd 40C mewn rhai mannau.
Bydd y rhybudd, sef y lefel uchaf o rybudd gan y Swyddfa Dywydd, mewn grym rhwng 09:00 ddydd Mercher a 21:00 ddydd Iau yn y de ddwyrain.
Fe allai’r tywydd achosi salwch difrifol neu berygl i fywyd, ac mae’n debygol y bydd angen newidiadau sylweddol i arferion gwaith a threfniadau dyddiol.
Mae’n cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod cyfnod eithriadol o dywydd poeth a llaith yn cael ei ddisgwyl, gydag effeithiau ar y boblogaeth gyffredinol yn “debygol iawn”.
Mae rhybudd oren eisoes mewn grym mewn rhannau o’r de-ddwyrain a’r canolbarth tan 23:59 nos Fawrth.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi ymestyn ail rybudd oren i bob rhan o Gymru rhwng 00:00 ddydd Mercher a 23:59 ddydd Iau.
O fewn ardal y rhybudd coch, mae disgwyl cyfnod o ddau neu dri diwrnod lle bydd y tymheredd uchaf yn y cysgod yn uwch na 37C.
Fe allai’r tymheredd godi i rhwng 38C a 40C mewn rhai mannau.
Bydd lefelau uchel o leithder yn gwneud yr amodau’n fwy anghyfforddus, gyda nosweithiau cynnes a llaith yn ei gwneud yn anoddach i bobl adfer ar ôl gwres y dydd.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod risg uchel y gallai systemau ac offer sy’n sensitif i wres fethu, gan arwain at golli gwasanaethau fel dŵr, trydan, nwy neu signal ffonau symudol.
Fe allai fod oedi a gwasanaethau'n cael eu canslo ar y ffyrdd, y rheilffyrdd ac mewn meysydd awyr.
Mae disgwyl hefyd i ragor o bobl ymweld ag arfordiroedd, llynnoedd ac afonydd, gan gynyddu’r risg o ddigwyddiadau diogelwch dŵr.
Mae’r cyhoedd yn cael eu cynghori i yfed digon o hylif, osgoi’r haul ac ymarfer corff rhwng 11:00 a 15:00, a chau llenni mewn ystafelloedd sy’n wynebu’r haul.
Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i gadw golwg ar bobl hŷn, pobl â chyflyrau iechyd a’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Newid hinsawdd
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r record am y tymheredd uchaf a gofnodwyd ym mis Mehefin, sef 35.6C, gael ei thorri.
Cafodd y tymheredd hwnnw ei gofnodi yn Southampton yn 1976.
Dywedodd Simon Partridge, meteorolegydd yn y Swyddfa Dywydd, fod newid hinsawdd yn golygu bod cyfnodau o dywydd eithafol yn digwydd “yn amlach”.
“Dyna, yn anffodus, yw’r cyfeiriad mae pethau’n mynd ar hyn o bryd, ac nid yw’n ymddangos bod hynny’n arafu,” meddai