Rhybudd berwi dŵr wedi ei godi yn llwyr yn Rhondda Cynon Taf

Dwr

Mae rhybudd berwi dŵr wedi ei godi yn llwyr mewn ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf ar ôl i gwsmeriaid orfod gwneud hynny am bump diwrnod. 

Roedd Dŵr Cymru wedi darganfod problem ddydd Gwener gyda'r broses gemegol roedden nhw’n yn ei defnyddio i drin dŵr yfed yng Ngorsaf Trin Dŵr Maerdy.

Mae'n golygu bod modd i bobl yn yr ardaloedd gafodd eu heffeithio ddefnyddio’r dŵr fel y maen nhw fel arfer, gan gynnwys ar gyfer yfed, coginio bwyd a brwsio eu dannedd.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod yr hysbysiad wedi ei godi yn yr ardal olaf. Y cymunedau hynny oedd Trebanog, Tonyrefail, Penrhiwfer, Y Cymer, Trewiliam, Porth, Tonypandy a Glynfach. Roedd y rhybudd wedi ei godi yn gynt mewn ardaloedd eraill o'r sir. 

Dywedodd Steve Wilson, Prif Swyddog Gweithrediadau Dŵr Cymru eu bod eisiau "diolch i'r holl gwsmeriaid am eu hamynedd a'u dealltwriaeth drwy gydol y digwyddiad hwn. 

"Rydym yn cydnabod y drafferth sylweddol y mae hyn wedi'i achosi, yn enwedig yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd poeth, ac rydym yn ymddiheuro am y anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a chymunedau lleol."

Ychwanegodd mai'r flaenoriaeth oedd " diogelu iechyd y cyhoedd" a'u bod wedi gosod camau yn eu lle i wneud yn siŵr bod y dŵr yn ddiogel cyn codi'r hysbysiad.

"Cyn codi'r rhybudd, roeddem yn samplu ansawdd dŵr, profi a fflysio'r rhwydwaith i sicrhau bod cyflenwadau yn cyrraedd y safonau uchel y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl.

“Dim ond ar ôl cyfres o ganlyniadau clir a gadarnhaodd fod y dŵr yn ddiogel i'w ddefnyddio fel arfer y mae'r rhybudd wedi'i godi," meddai.

Mae'n dweud bod manylion er mwyn cael iawndal i'r rhai hynny gafodd eu heffeithio ar gael ar wefan Dŵr Cymru. 

Llun: ITV Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.