Ceri Holland yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd

Ceri Holland

Mae Ceri Holland ac Olivia Clark wedi dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau'r tîm cenedlaethol yn erbyn Montenegro a Tsiecia.

Bydd y crysau cochion yn wynebu'r timau yn eu gemau olaf ar gyfer ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2027.

Roedd Holland a Clark wedi methu dwy gêm ddiwethaf Cymru oherwydd anafiadau.

Mae Lois Joel a Laura Hughes hefyd wedi dychwelyd i'r garfan, tra bod Hayley Ladd heb ei chynnwys oherwydd anaf.

Enillodd Cymru eu dwy gêm yn erbyn Albania fis Ebrill, ac maen nhw yn ail yng ngrŵp B1 tu ôl i Tsiecia ar wahaniaeth goliau.

Bydd Cymru yn wynebu Montenegro ym Mhodgorica ddydd Gwener 5 Mehefin cyn wynebu Tsiecia mewn gêm a allai benderfynu pwy fydd yn gorffen ar frig y grŵp ar 9 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle. Er hynny bydd eu safle terfynol yn y grŵp yn effeithio ar bwy fydd y crysau cochion yn chwarae yn eu herbyn yn y gemau ail-gyfle.

Bydd Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr wrth i'r enwau gael eu tynnu allan o'r het mewn seremoni ar 18 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.