‘Rhwystredigaeth’ am oedi cynllun £39 biliwn i adfer Senedd San Steffan

Syr Lindsay Hoyle

Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi mynegi rhwystredigaeth am yr oedi cyn gwneud gwaith atgyweirio a allai gostio hyd at £39bn ar adeiladau Senedd San Steffan.

Dywedodd Syr Lindsay Hoyle fod y broses o gymeradwyo’r gwaith adnewyddu mawr ar yr adeilad hanesyddol wedi rhoi aelodau’r Senedd mewn “cyffion” o ran cyflymu’r broses.

Fe fyddai symud ASau a staff allan o’r adeilad yn costio £15.6 biliwn ac yn para hyd at 24 mlynedd.

Fe fyddai cynllun arall i gadw rhai ASau a staff yn yr adeilad tra bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn costio hyd at £39 biliwn ac yn para hyd at 61 mlynedd.

Bydd gofyn yn fuan i ASau ac aelodau Tŷ’r Arglwyddi gymeradwyo ‘Cam Un’ y rhaglen, sydd â therfyn cost o £3 biliwn. 

Byddai yn darparu lleoliadau dros dro gerllaw ar gyfer Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi o 2032 ymlaen, yn ogystal â symud swyddfeydd allan o’r palas.

Os nad yw’r gwaith yn mynd rhagddo mae perygl y gallai tân tebyg i’r un yn Notre Dame ddigwydd yn y Senedd, rhybuddiodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn adroddiad yr wythnos hon. 

Gallai’r Brenin hefyd gael ei adael yn y tywyllwch yn ystod seremoni agoriad swyddogol y Senedd oherwydd problemau gyda’r trydan.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin mai ei “rwystredigaeth fwyaf” ynglŷn ag adfer yr adeilad o oes Fictoria oedd “nad ydyn ni’n bwrw ymlaen â’r gwaith”.

“Rydyn ni’n treulio mwy o amser yn gwneud arolygon,” meddai mewn cyfweliad â rhaglen The Week in Westminster ar BBC Radio 4.

Ychwanegodd: “Yn hytrach na gwneud arolygon, pam nad ydyn ni’n dechrau atgyweirio’r adeilad?”

Roedd Syr Lindsay yn feirniadol o’r gyfraith sy’n sail i’r prosiect, sy’n golygu na all y gwaith ddechrau nes bod y Senedd wedi cymeradwyo’r cynllun cyfan.

Dywedodd: “Mae’n rhwystredig iawn pan fo’r Ddeddf Seneddol yn eich atal rhag gwneud y gwaith atgyweirio mawr sydd ei angen.”

Fe wnaeth y Llefarydd hefyd gwestiynu pam nad oedd system sy’n chwistrellu niwl dŵr i atal tanau wedi cael ei gosod ym Mhalas San Steffan, rhywbeth y mae wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd.

Yn gynharach yr wythnos hon, rhybuddiodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod disgwyl i gost wythnosol cynnal a chadw ystâd Senedd San Steffan godi o £1.5 miliwn ar hyn o bryd i £2 filiwn yn y blynyddoedd nesaf.

Bydd pob blwyddyn o oedi i’r rhaglen yn ychwanegu £420 miliwn at gyfanswm y gost o gyflawni’r cynllun, meddai’r pwyllgor.

Mae angen i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi bleidleisio i gymeradwyo cyfeiriad y rhaglen Adfer ac Adnewyddu yn y dyfodol cyn y gall fynd yn ei blaen.

Roedd disgwyl i’r pleidleisiau tyngedfennol hyn gael eu cynnal tua’r Pasg eleni, ond mae wedi cael ei ohirio.

“Pwy a ŵyr pryd y bydd yn dod gerbron y Tŷ? Gawn ni weld beth mae’r Tŷ yn ei benderfynu,” meddai Syr Lindsay wrth y darlledwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.