Rhwyfwyr o Borthmadog i herio afon Seine i nodi 25 mlynedd
Mae aelodau o Glwb Rhwyfo Porthmadog yn paratoi i rwyfo 26 cilometr ar hyd afon Seine ym Mharis i nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r clwb.
Bydd 15 aelod yn teithio i brifddinas Ffrainc i gymryd rhan yn y Traversée de Paris ddydd Sul, gyda 12 ohonyn nhw’n rhwyfo a thri yn gweithredu fel cox.
Byddan nhw’n defnyddio yolettes (cychau rhwyfo) sydd wedi’u llogi gan glwb lleol sy’n cynnal y digwyddiad.
Mae disgwyl i dros 1,300 o rwyfwyr mewn mwy na 260 o gychod gymryd rhan eleni, gyda chynrychiolwyr o fwy na 10 o wledydd.
Yn ôl y trefnwyr, dyma’r unig adeg o’r flwyddyn y mae rhwyfo drwy ganol Paris ar afon Seine yn cael ei ganiatáu.
Bydd y llwybr 26 cilometr yn mynd o dan 33 o bontydd ac yn mynd heibio rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus y ddinas, gan gynnwys Tŵr Eiffel ac eglwys gadeiriol Notre-Dame.
Bydd angen i’r criw gyrraedd un o’r pontydd ar y daith o fewn amser penodol cyn i draffig arferol ddychwelyd i’r afon.
Dywedodd Lynda Roberts, aelod o Glwb Rhwyfo Porthmadog, fod y daith yn gyfle i wneud rhywbeth newydd i nodi’r garreg filltir.
“Efo’r dathlu’r pum mlynedd ar hugain rydyn ni’n mynd i wneud rhywbeth newydd i’r clwb,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw i gael cyfle i wneud y rhwyfo.
“Mae mynd allan ar y dŵr yn syml yn iachusol.”
O saith aelod i 80
Cafodd y clwb ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl gan grŵp bychan o ddynion a busnesau lleol.
Saith aelod oedd yn rhan o’r clwb ar y dechrau, ac fe wnaethon nhw brynu eu Celtic Longboat cyntaf rhyngddyn nhw.
Yn ôl Lynda Roberts, mae gan y math yma o gwch hanes hir, gyda chriwiau yn eu defnyddio yn y gorffennol i fynd allan i gyfarfod llongau mwy cyn eu harwain yn ôl i’r harbwr.
Byddai’r criw cyntaf i gyrraedd y llong yn cael ei dalu am y gwaith, gan arwain at rasio rhwng y cychod.
“Dyna pam mae ’na hanes hir o rasio’r llongau ’ma, y cychod ’ma,” meddai.
Erbyn hyn mae gan y clwb tua 80 o aelodau, gyda’r aelodau’n amrywio o 16 i 82 oed.
“Mae cyrraedd 25 mlynedd o hanes y clwb yn garreg filltir fawr, oherwydd mae’r clwb wedi tyfu rŵan o’r saith aelod gwreiddiol i fod yn 80 o aelodau sydd yn cymryd rhan yn y rhwyfo,” meddai Lynda.
“Mae bod yn rhan o’r clwb yn arbennig oherwydd bod o’n gymuned glos.
“Mae’r aelodau i gyd yn reit agos ac yn ffrindiau mawr yn edrych allan amdan ei gilydd.”
Mae aelodau’r clwb wedi cymryd rhan mewn sawl her rwyfo dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Great River Race ar afon Tafwys yn Llundain a Monster the Loch ar Loch Ness yn yr Alban.
Maen nhw hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Ocean to City yng Nghorc a’r Celtic Challenge rhwng Iwerddon a Chymru.
Mae’r aelodau’n hyfforddi drwy gydol y flwyddyn ac yn cymryd rhan mewn rasys hir a byr yn ystod y tymor.
Bydd Traversée de Paris yn cael ei chynnal ddydd Sul 13 Medi.
Lluniau: Clwb Rhwyfo Porthmadog
