Rhoi mwy o staff ar linellau cymorth pensiynau a budd-daliadau wedi ymosodiad seiber

DWP Gwaith a Phensiynau Ymosodiad Seiber - Llun NS4C

Bydd staff ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i redeg llinellau cymorth gan fod systemau rheoli budd-daliadau a phensiwn ar-lein yn parhau i fod lawr wedi ymosodiad seiber, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae nifer o systemau yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) wedi bod all-lein ers dros ddeuddydd yn dilyn "ymgais i gael mynediad anawdurdodedig i'n systemau."

Cyhoeddodd y DWP nos Sul y bydd mwy o staff yn ateb llinellau ffôn ddydd Llun i ddelio â "chwestiynau brys" gan gwsmeriaid.

"Mae budd-daliadau a thaliadau pensiwn cyson yn parhau i gael eu talu fel arfer, ond rydym yn ymwybodol y bydd gan rai o'n cwsmeriaid gwestiynau brys, felly byddwn yn rhoi staff ychwanegol ar ein llinellau ffôn yfory," meddai llefarydd mewn datganiad.

"Rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i ddarparu'r gefnogaeth mae pobl ei angen."

Ychwanegodd y llefarydd bod ymchwiliadau i'r ymosodiad yn parhau, gydag arbenigwyr seiber y DWP yn cydweithio â'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chanolfan Cydlynu Seiber y Llywodraeth.

"Rydym yn gweithio i ddeall natur ac effaith yr ymosodiad ac i ddod â gwasanaethau yn ôl ar-lein mewn modd mor ofalus â phosib, tra'n ceisio cadw'r effaith ar gwsmeriaid yn fychan," meddai.

2.5m taliad y dydd

Ers y digwyddiad, mae swyddogion wedi ceisio lleddfu pryderon am oedi i daliadau pensiwn neu fudd-daliadau gan y DWP, sy'n prosesu 2.5 miliwn o daliadau bob dydd. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden, nad oedd y llywodraeth yn credu bod unrhyw oedi dros y dyddiau diwethaf yn gysylltiedig â'r ymosodiad seiber.

"Mae taliadau yn cael eu clirio sawl diwrnod o flaen llaw, felly ddylen nhw ddim gael eu heffeithio gan hyn," meddai.

"Ac mae hwn yn system, cofiwch, sy'n prosesu 2.5 miliwn taliad bob dydd, ac mae 'na wastad nifer fechan sydd ddim yn mynd drwodd am ryw reswm neu'i gilydd wrth i hynny ddigwydd.

"Felly dwi'n deall y pryderon, ond oes ydy rhywun yn y sefyllfa honno, cysylltwch â'r adran yn ystod oriau gwaith arferol, ac fe geisiwn ni ei sortio."

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C yn gynharach, dywedodd un arbenigwr diogelwch digidol o Gymru bod deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn galluogi mwy o ymosodiadau ar systemau cyfrifiadurol.

Rhybuddiodd Hywel Ifans o gwmni BCC IT bod hon yn “flwyddyn nad 'yn ni wedi gweld ei thebyg hyd yn hyn” o ran nifer yr ymosodiadau.

Wrth siarad ar Sky News ddydd Sul, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg dros Loegr, Lucy Powell, bod Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o adnoddau i brosiectau seiberddiogelwch.

"Mae'r hyn sy'n digwydd yn mynd i ddigwydd yn amlach o bosib," meddai.

"A beth sy'n rhaid i ni sicrhau ydy bod gennym ni'r systemau mewn lle i ddelio efo nhw yn sydyn iawn, i ddiogelu ein data, ein systemau, a'n bod ni yn wydn - a dyna beth 'dan ni'n ei wneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.