Rheolwr CPD Caernarfon yn beirniadu'r defnydd o VAR yn Uwch Gynghrair Cymru

Richard Davies

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon wedi beirniadu'r defnydd o dechnoleg fideo VAR yng ngêm Caernarfon yn erbyn Pen-y-bont yn Uwch Gynghrair Cymru nos Wener. 

Fe gollodd Caernarfon 1-2 gartref yn erbyn Pen-y-bont yn eu hail gêm o'r tymor newydd. 

Mae technoleg fideo VAR newydd wedi ei chyflwyno i'r gynghrair eleni er mwyn cynorthwyo'r dyfarnwyr, gan olygu fod ychydig o oedi ar ôl unrhyw gôl neu benderfyniad dadleuol wrth i'r dechnoleg gynorthwyo'r dyfarnwyr i gadarnhau os ydyn nhw wedi gwneud y penderfyniad cywir. 

Fe wnaeth Zack Clarke roi'r tîm cartref ar y blaen o fewn y pum munud cyntaf, ond ni chafodd goliau Noah Edwards a Osian Evans eu cymeradwyo, gyda'r dyfarnwyr yn datgan eu bod yn camsefyll, ac fe gafodd hyn ei gadarnhau gan y dechnoleg VAR. 

Fe wnaeth gôl gan Tom Mehew sicrhau fod Pen-y-bont yn gyfartal ar ôl 18 munud, ac fe wnaeth cic gosb gan Ryan Hill roi'r ymwelwyr ar y blaen i ennill y gêm. 

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr CPD Tref Caernarfon, Richard Davies: "Put it in the bin, ma'n rybish, 'san ni 3-0 up simple as, ma'n rybish," meddai. 

"Dio'm yn gweithio yn y standard yma, a be dan ni'n ennill ohona fo? Mae o'n difetha fo i'r crowd so ia, not a fan, never will be, 'dan ni'm yn gallu gael o'n iawn yn y Premier League, pa chance sgenna ni yn y Welsh Prem?

Ychwanegodd Richard Davies fod y dechnoleg wedi effeithio ar rythm y gêm i'w dîm. 

"Do lot, a wedi cymryd dwy gôl oddi wrtha ni, lle dwi'n trio siarad efo'r fourth official, mae o'n deud dio'm yn gwbo be sy'n mynd ymlaen a mae o jyst dipyn bach all over the shop ar y funud," meddai. 

"'Dan ni'm yn gallu gael o'n iawn, so tan da ni'n gallu gael o'n berffaith, dwi'm isio gweld o ar gyfyl y lle."

Yn y Novira Cymru Premier, fe fydd VAR Light yn defnyddio pedwar camera, dau ar y llinell hanner fordd ac un ar bob llinell y cyrtiau cosbi naill ben i'r cae.

Fe all y dechnoleg ymyrryd mewn pum elfen o'r gêm, gan gynnwys goliau a goliau sydd wedi'u gwrthod, digwyddiadau yn ardal y cell cosbi a chardiau coch uniongyrchol. 

Ni all y dechnoleg ymyrryd mewn digwyddiadau gan gynnwys cardiau melyn, a thechnoleg llinell camsefyll. 

Doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim am wneud sylw.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.